Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

garn, Rhosycaerau, a Rhodiad. Yr oedd Mr. Jenkins yn ei flynyddau diweddaf yn cael ei flino a'i analluogi yn fawr gan ddiffyg anadl. Bu farw Ionawr 18fed, 1811, yn 61 oed. Pregethodd Mr. B. Griffiths ei bregeth angladdol oddiwrth Heb. xiii. 7. Yr oedd Mr. Daniel Jenkins yn cael ei gyfrif yn ddyn da a galluog iawn yn yr ysgrythyrau, ac yn bregethwr adeiladol a derbyniol iawn. Yr oedd yn Galfiniad diysgog o ran ei farn.

BENJAMIN GRIFFITHS. Ganwyd ef yn Clungwyn, yn mhlwyf Meidryn, sir Gaerfyrddin, Gorphenaf 16eg, 1778. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol iawn, yn aelodau yn Bethlehem, St. Clears, a'i dad yn ddiacon yno. Mae yn ddiameu iddo ef fod dan argraffiadau crefyddol o'i febyd, ond ni ddarfu iddo wneyd proffes gyhoeddus o grefydd cyn y flwyddyn 1801, pryd yr oedd yn dair-ar-hugain oed. Ymunodd a'r eglwys yn Bethlehem yn y flwyddyn hono. Trwy offerynoliaeth ei ewythr, Mr. Thomas, Llwynbychan, yr hwn oedd yn ddiacon a phregethwr parchus yn Bethlehem, y dygwyd ef i benderfyniad i roddi ei hun yn gyhoeddus i'r Arglwydd a'i bobl. Yn mhen tair blynedd ar ol ei dderbyn yn aelod, ar anogaeth yr eglwys, dechreuodd arfer ei ddoniau fel pregethwr. Bu am bum' mlynedd yn pregethu yn achlysurol yn ei fam-eglwys ac yn yr eglwysi cymydogaethol, ac yn dilyn ei alwedigaeth fel masnachydd. Yn 1809, fel y gwelsom, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nhrefgarn, ac urddwyd ef yno. Bu yn llafurus iawn ac yn nodedig o lwyddianus. Byddai yn fynych yn mlynyddau cyntaf tymor ei weinidogaeth yn pregethu dair, ac yn aml bedair gwaith y Sabboth. Derbyniodd yn ystod ei weinidogaeth 600 o aelodau, a bedyddiodd tua 800 o blant. Ar ben yr haner canfed flwyddyn o'i weinidogaeth, rhoddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa anrheg o haner can' punt iddo fel arwydd o barch tuag ato. Yn fuan ar ol hyny cafodd ergyd ysgafn o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i wneyd nemawr yn gyhoeddus o hyny allan hyd derfyn ei oes. Bu farw Mehefin 17eg, 1862, yn 84 oed, ac yn y drydedd-flwyddyn-ar-ddeg-a-deugain o'i weinidogaeth yn Nhrefgarn. Claddwyd ef yn meddrod y teulu wrth gapel Glandwr, pryd y pregethodd Mr. John Davies oddiwrth 2 Tim. iv. 6, a'r Sabboth canlynol, pregethodd Mr. J. M. Evans, yn Nhrefgarn, oddiwrth 2 Petr i. 15.

Nid oedd Benjamin Griffiths mor ddysgedig a galluog ei feddwl, nac mor gyhoeddus ei ysbryd a'i frawd enwog James Griffiths, Tyddewi; ond nid oedd yntau heb ei ragoriaethau. Yr oedd yn fwy poblogaidd a derbyniol fel pregethwr gyda'r lluaws na'i frawd galluocach. Fel pregethwr yr oedd yn eglur, blasus, pwrpasol, a byr. Trwy hyny gallodd gadw oynnulleidfaoedd lluosog i'w wrandaw yn foddhaol am haner can' mlynedd. Yr oedd hefyd yn ddyn o synwyr cyffredin cryf, ac yn nodedig o fedrus i lywodraethu dynion. Cyfyngodd ei lafur am ei oes i'w gylch gweinidogaethol ei hun, a gwnaeth ei ôl yn ei ardal, er ei fod yn anadnabyddus agos yn mhob man arall.[1]

TYDDEWI.

Arferai Mr. John Richards, gweinidog Trefgarn, bregethu yn fisol ar brydnawnau Sabboth mewn lle a elwid Carnachenlwyd, yn mhlwyf Mathry.

  1. Yr ydym wedi casglu defnyddiau yr banes uchod o luaws o wahanol ffynonellau; ond yr ydym yn rhwymedig yn benaf i ysgrif ddo y diweddar Mr. Griffiths, Tyddewi.