Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar un prydnawn Sabboth, o gylch y flwyddyn 1782, aeth un William Perkins, Pwllcaerog, yn mysg eraill, yno i wrando. Gwrandawr a chymunwr yn yr Eglwys Sefydledig oedd Mr. Perkins, ond yr oedd yn ddyn meddylgar ac o feddwl rhydd ac agored; as efe a hoffodd Mr. Richards yn fawr, ac yn mhen y mis aeth i'r un lle eilwaith i wrando arno. Y tro hwnw ceisiodd gan Mr. Richards ddyfod i gymydogaeth Tyddewi i ryw le. Atebodd yntau ei fod yn gwbl barod os gellid cael drws agored iddo. Dywedodd Mr. Perkins y byddai ei ddrws ef yn agored hyd nes y ceid lle mwy cyfleus. Pregethodd Mr. Richards ar ol hyn amryw weithiau yn Mhwllcaerog, ac aeth wedi hyny i le a elwir Llaethdy, yn agos i Benmaen, (St. David's Head). Bu hefyd amryw weithiau yn pregethu yn Nhyddewi, yn nhy un William Pugh, a phregethodd rai troiau yn yr awyr agored o flaen drws tafarndy a elwid y Lion. Yr oedd egwyddorion Ymneillduaeth yn ddyeithr iawn i bobl Tyddewi yr amser hwnw. Nid oedd yno yr un capel Ymneillduol yn y lle, er fod y Methodistiaid yn pregethu yn achlysurol yma er's mwy na deugain mlynedd, etto yn mhen rhyw ddwy flynedd wedi i'r Annibynwyr ddechreu pregethu y codwyd eu capel.

Wedi i Mr. Richards, ac eraill, fod yn pregethu yn y ddinas a'r amgylchoedd am ysbaid dwy flynedd, ac i amryw aelodau o'r ardal gael eu derbyn yn Trefgarn, meddyliwyd am gael capel, a gwnaed cais am dir yn Nhyddewi, ond yr oedd y gwrthwynebiad i Ymneillduaeth yn y ddinas Esgobol yn rhy gryf iddynt, a methasant yn eu hamcan er pob ymdrech. Llwyddwyd i gael llain fechan o dir o fewn milldir i Dyddewi, ar y ffordd i Abergwaun, gan Mr. William Meyler, Tremyni, neu Tremynydd. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1784. Galwyd ef Rhodiad y Brenin, neu "rhodfeydd y brenhin," a Rhodiad y gelwir ef hyd y dydd hwn. Mae traddodiad yn dyweyd, fod yr hen broffwyd, Mr. Edmund Jones, Pontypool, yn cerdded o Dyddewi rhyngddo ac Abergwaun, ac iddo aros ar gyfer y lle, a dyweyd wrth y rhai a gydeithiai ag ef, "Bydd tŷ cwrdd gan y Dissenters yn y fan yma." Nid oedd yno, ar y pryd, yr un ty wedi ei godi, oblegid ar ol codi y capel y codwyd yr ychydig dai sydd gerllaw.[1] Corpholwyd yma eglwys yn ddioed wedi codi y capel, cynwysedig o ugain o aelodau, y rhai oeddynt, gan mwyaf, yn perthyn i Drefgarn. Parhaodd Mr. Richards i lafurio yma mewn cysylltiad a Threfgarn hyd y flwyddyn 1795, pryd yr ymfudodd i America. Disgynodd gofal yr eglwys yn Rhodiad ar ol hyn yn benaf ar Mr. William Harries, un o'r pregethwyr cynorthwyol oedd yn perthyn i'r eglwys yn Nhrefgarn, a'r hwn yn flaenorol oedd wedi bod o fwyaf o help i Mr. Richards gyda'r ganghen yn Rhodiad. Urddwyd ef Hydref 21ain, 1795. Er y bwriedid, fel y dywedasom yn hanes Trefgarn, i'r pedwar gweinidog a urddwyd i lafurio ar gylch trwy yr holl faes, ond buan iawn y cyfyngodd pob un at ei faes priodol ei hun. Yn yr adeg yma yr ydym yn cael fod William Perkins, Samuel David, a Thomas Howell, yn henuriaid llywodraethol yn yr eglwys yn Rhodiad, a George Cunnick, Gilbert Howell, William Howell, a Richard Howell yn ddiaconiaid. Yn fuan wedi ei urddiad, dechreuodd Mr. Harries bregethu gyda gradd o gysondeb yn Solfach, ac yn y flwyddyn 1798, adeiladwyd yno gapel bychan, ac ystyrid y lle yn gangen o Rhodiad, er fod gweinidogion ac aelodau Trefgarn hefyd yn cynorthwyo i'w adeiladu. Bu Mr. Harries yn dra diwyd, ac i fesur yn llwyddianus, yn maes ei lafur. Yn y

  1. Ysgrif y diweddar Mr. Griffiths, Tyddewi.