Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn 1811, daeth Mr. James Griffiths, Machynlleth, trwy gysylltiadau priodasol, i aros y rhan fwyaf o'i amser yn y gymydogaeth, a phan y byddai yma gwnai ei oreu i gynorthwyo Mr. Harries yn y weinidogaeth. Ond yn 1814, daeth Mr. Griffiths i drigianu yn arhosol yn yr ardal, a rhoddwyd galwad iddo i fod yn gydweinidog a Mr. Harries yn Rhodiad a Solfach, yr hon a ystyrid yn un eglwys er fod ganddi ddau gapel. Yn mis Tachwedd, y flwyddyn hono, cynhaliwyd cyfarfod gweinidogion yn Rhodiad i gydnabod y berthynas oedd yn cael ei ffurfio rhwng Mr. Griffiths a'r eglwys, ac yn absenoldeb yr hen weinidog, yr hwn a luddiwyd i fod yn bresenol gan afiechyd, gweddiwyd y weddi briodol i'r achlysur gan Mr. Richard Howells, un o ddiaconiaid yr eglwys, yr hwn hefyd oedd yn bregethwr cynorthwyol parchus. Siriolodd yr achos yn fawr wedi sefydliad Mr. Griffiths yn y lle, a thaflwyd ysbryd newydd i lawer o'r aelodau. Byddid yn pregethu yn achlysurol yn Nhyddewi, ar ol codi y capel yn Rhodiad, mewn ty anedd yno, ond barnai Mr. Griffiths y dylesid cael lle mwy cyfleus at addoli. Gan fod ganddo dir yno yr hwn, a ddaeth yn eiddo iddo trwy ei briodas, cynygiodd le i'r eglwys i adeiladu capel. Derbyniwyd y cynygiad, ac adeiladwyd y capel yn 1815. Galwyd ef Ebenezer. Bu pregethu rheolaidd yma ar ol hyn, er mai eglwys Rhodiad y cyfrifid yr eglwys. Ogylch yr adeg yma, bu yr eglwys mewn cryn helbul oblegid yr ofnent golli eu hawl yn y capel. Ymddengys fod William Meyler, gan yr hwn y cawsid y tir at godi y capel, wedi gosod y tyddyn o ba un yr ydoedd y llain ar ba un y codwyd ef yn rhan, ar lês i un Henry Tegan, felly yr oedd yn ofynol i Tegan roddi y llain hono yn ol i Meyler cyn y gallasai Meyler roddi lês arni i ymddiriedolwyr y capel. Ac felly y gwnaed. Ond yn mhen amser wedi marw Meyler a Tegan, deallwyd fod у lês a roddasai Tegan i Meyler wedi myned ar goll, ac oblegid hyny yr oedd y lês a roddasai Meyler i'r ymddiriedolwyr yn ddirym. O dan yr amgylchiadau yma, honodd William Tegan, mab Henry Tegan, ei hawl i'r tir, a'r capel, a'r tai oedd erbyn hyn wedi eu hadeiladu ar y tir. Parodd hyn lawer o drallod a blinder, ac nid oedd yr un o'r ymddiriedolwyr yn meddu digon o wroldeb i amddiffyn hawliau yr eglwys. Yr oedd William Tegan ar y pryd yn y carchar am ddyled, ac aeth Mr. Griffiths ato yno, a chafodd ganddo am 25p. i drosglwyddo ei hawl, ac arwyddo hyny yn ngwydd tystion, ac o hyny allan nid oedd unrhyw berygl i'r eglwys golli ei hawl ynddo. Yn y blynyddoedd dilynol nid ymddengys fod Mr. Griffiths a'r hen weinidog yn cyd-dynu yn dda, ac yr oedd teimladau yr eglwys yn cael eu rhanu, er fod pob ymddangosiad o heddwch. Yr oedd gwahaniaeth mawr yn ngolygiadau duwinyddol y ddau. Un o'r hen ysgol uchel-Galfinaidd oedd Mr. Harries, ac am Mr. Griffiths, yr oedd ef yn adnabyddus fel un o brif bleidwyr yr hyn a elwid y "System newydd," a gwarthruddid ef fel heretic gan lawer na wyddent pa bethau yr oeddynt yn ddywedyd, nac am ba bethau yr oeddynt yn taeru. Er nas gallesid cael dim yn bendant yn erbyn pregethau Mr. Griffiths, etto yr oedd yno amryw a deimlant fod tôn gyffredin ei weinidogaeth yn rhoddi sain anhynod. Ďaeth achos o ddysgyblaeth hefyd ger bron yr eglwys, yr hyn a ddygodd y teimladau oeddynt er's blynyddoedd yn crynhoi i addfedrwydd; ac yn y 1823, ymneillduodd nifer o'r aelodau, a ffurfiasant eu hunain yn eglwys yn Solfach, a dewisasant yr hybarch Mr. Harries i fod yn weinidog iddynt. Yr oedd Mr. Thomas Mortimer wedi dechreu pregethu rai blynyddoedd syn corpholiad yr eglwys yn Solfach, ond ar ei ffurfiad aeth ef yno gyda'i