Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen weinidog, a chyn hir, dewiswyd ef yn gydweinidog ag ef, fel y cawn achlysur i sylwi etto. Parodd yr ymraniad fesur o ddrwg-deimlad ar y pryd, ac yr oedd teimladau gweinidogion yn rhanedig ar yr achos, ond daeth pethau i'w lle yn fuan, ac iachawyd y teimladau o bob tu. Aeth yr achos yn Rhodiad yn mlaen yn gysurus. Yn y flwyddyn 1833, codwyd capel bychan, mewn cysylltiad a Rhodiad, yn uwch i fyny ar y ffordd i Abergwaun, a galwyd ef Berea. Aeth capel Tyddewi hefyd yn rhy fychan, ac yn 1888, bu raid ei ailadeiladu. Yr oedd y tri lle hyn mewn undeb a'u gilydd, ac yn ystyried eu hunain yn un eglwys. Cynhelid gwasanaeth foreu a hwyr yn Nhyddewi a Berea bob Sabboth, ond un Sabboth yn y mis, pryd y cyfarfyddai yr eglwys oll yn Rhodiad y boreu, i gyfranogi o Swper yr Arglwydd. Yn Rhodiad y cynhelid yr holl gyfarfodydd eglwysig hefyd, fel y lle mwyaf canolog i'r holl eglwys. Yr oedd angen erbyn hyn am ddau bregethwr bob Sabboth, ac nid oedd yr un pregethwr cynorthwyol yn yr eglwys. O dan yr amgylchiadau hyn, cynygiodd Mr. Griffiths ar fod iddynt gael dyn ieuange i gydlafurio ag ef, neu os byddai yn fwy dewisol ganddynt, yr oedd yn hollol barod i roddi ei le i fyny, ac iddynt gael gweinidog i gymeryd yr holl ofal, ac y gwnai yntau ei oren i'w gynorthwyo. Ni fynai yr eglwys son am i'r hen weinidog eu rhoddi i fyny, a chydunwyd i gael dyn ieuangc i gydlafurio ag ef, a rhoddwyd galwad i Mr. John Lloyd Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Nhyddewi, Hydref 7fed, 1847. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Hughes, Trelech; gofynwyd yr holiadau arferol i'r gweinidog gan Mr. D. Davies, Zion's-hill; gofynwyd i'r hen weinidog ei deimladau, ac amlygodd yntau ei hollol gydsyniad, a'i lawenydd diffuant ar yr achlysur; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. B. Griffiths, Trefgarn; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Davies, Rhosycaerau, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. J. Evans, Hebron. Aeth pethau yn mlaen yn dra chysurus ar ol hyn, ond fod cyfeillion Tyddewi a Berea yn myned i gwyno oblegid gorfod dyfod bob mis i Rhodiad i gymuno. Trefnwyd yn wyneb hyny eu bod i gael cymundeb bob tri mis yn mhob un o'r ddau le, a chyfarfod bob tri mis yn Rhodiad. Ond blinwyd cyn hir ar hyny hefyd, a'r diwedd fu ffurfio dwy eglwys Annibynol, un yn Nhyddewi a'r llall yn Berca, ac i bawb o'r aelodau ymuno a'r un a fyddai yn fwyaf cyfleus iddynt. Gwnaed hyn yn hollol heddychol o du y gweinidogion a'r eglwys, a phenderfynwyd i'r ddau weinidog gydweinidogaethu i'r ddwy eglwys.

Yn niwedd 1854, teimlodd Mr. Griffiths ei fod yn analluog i gyflawni ei weinidogaeth, ac oblegid hyny, ymryddhaodd yn hollol oddiwrth gyfrifoldeb ei swydd, er iddo barhau i bregethu hyd y gallodd fel cynt. Yn yr adeg yma, cyfyngodd Mr. Jones ei ofal yn hollol i Dyddewi, ac felly datodwyd y cysylltiad agos ac anwyl oedd wedi bod cyhyd rhwng Tyddewi a Berea. Llafuriodd Mr. Jones yma gyda derbyniad a chymeradwyaeth hyd yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1857, pryd y symudodd i gymeryd gofal eglwysi Crwys a Phenyclawdd, sir Forganwg. Pregethodd ei bregeth ymadawol yn Ebenezer, Tachwedd 22ain, 1857. Yn Ebrill, y flwyddyr ganlynol, bu farw yr hybarch Mr. Griffiths, ar ol bod mewn cysylltiad a'r eglwys yma am saith-mlynedd-a-deugain, ac yn weinidog iddi am fwy na deugain mlynedd.

Yn y flwyddyn 1863, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. Jenkin Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Gorphenaf 8fed, y