Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn hono. Wedi llafurio yma am dair blynedd, derbyniodd alwad o eglwys Seisnig Capel Ivor, Dowlais, a symudodd yno. Ar ol bod am yn agos i ddwy flynedd heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. John Foulkes, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 2il, 1868. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Lewis, Henllan; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. T. Davies, Abergele; gweddiodd Mr. S. Evans, Hebron; pregethodd Proff. Morgan, Caerfyrddin, i'r gweinidog, a Mr. R. Williams, Llundain, i'r eglwys. Yn ddioed wedi sefydliad Mr. Foulkes, teimlwyd fod y capel yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa, a bod yn rhaid ei helaethu. Bu llawer o son am hyn, ond ofnid rhag y baich. Yr oedd yr hen gapel, fel y gwelsom wedi ei godi ar dir Mr. Griffiths, yr hen weinidog, ond oblegid rhyw esgeulustra, nid oedd gweithred y trosglwyddiad erioed wedi ei gwneyd, er fod y tir wedi ei gael yn rhad. Anfonodd yr eglwys at ei fab, Mr. Henry Griffiths, Bowden, am ddarn ychwanegol o dir, ac yn mhen amser, cafwyd gair oddiwrtho y ceid ef ar lês o 999 mlynedd, am bunt y flwyddyn o ardreth. Codwyd capel hardd, gwerth deuddeg cant o bunau, heb gyfrif y cludiad, yr hyn a gafwyd yn rhad gan yr ardalwyr. Mesura 48 troedfedd wrth 36 troedfedd, ac y mae ystafell cang a chyfleus odditano, lle y cynhelir yr ysgol Sabbothol a moddion wythnosol. Agorwyd ef Medi 26ain a'r 27ain, 1871. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri T. Rees, D.D., Abertawy; J. Thomas, Liverpool; D. Jones, B.A., Merthyr; J. Lewis, Henllan; J. Davies, Aberdar; L. James, Carfan, a D. Evans, Narberth. Casglwyd erbyn dydd yr agoriad gan yr eglwys a'r gynulleidfa 550p.; ac y mae y gweddill o'r ddyled yn toddi yn gyflym o flaen gweithgarwch y gweinidog a'r eglwys. Mae yr eglwys yn awr yn rhifo tua 200 o aelodau. Mae yma gryn nifer o bersonau ffyddlon a gweithgar wedi bod yn yr eglwys hon o'r dechreuad, a magwyd yma ddosbarth o ddynion gwybodus a goleuedig, y fath na chyfarfyddir yn fynych a'u rhagorach, ac y mae rhai o'r un nodwedd etto yn aros. Nid ydym wedi cael rhestr o enwau y rhai mwyaf nodedig a fu yma o bryd i bryd, ond goddefer i ni oddiar ein hadnabyddiaeth bersonol, gyfeirio at Mr. David Griffiths, Trelwyd, mab yr hytarch weinidog, James Griffiths. Gwasanaethodd swydd diacon yn yr eglwys am dymor hir. Dewiswyd ef iddi pan yn ieuangc, ac ennillodd iddo ei hun ynddi radd dda. Yr oedd yn ddyn gwybodus a deallgar. Ysgrifenodd lawer gynt o dan y ffugenw Dilectus, Tyddewi. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau, a theimlai pawb fod colled ar ei ol yn yr ardal ac yn yr eglwys.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

Richard Howell. Yr oedd ef yn pregethu cyn dyfodiad Mr. Griffiths yma. Gweinyddai hefyd fel diacon yn yr eglwys. Edrychid i fyny ato gan bawb a'i hadwaenai ar gyfrif ei dduwioldeb a'i ddefnyddioldeb. Thomas Mortimer. Yr oedd ef wedi dechreu pregethu yn Rhodiad cyn ffurfio yr eglwys yn Annibynol yn Solfach. Daw ei hanes ef dan ein sylw etto.

John Owen. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Mhencadair. Ymfudodd i America, lle y bu farw yn ddiweddar. Daw ei hanes ef yn nglyn a Phencadair.

David Phillips. Bu yn efrydydd yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Carfan, lle y bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Ceir ei fywgraphiad yn nglyn a Charfan.

Henry Griffiths a John Griffiths, meibion y gweinidog, a ddygwyd i fyny