Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac egwyddori eu gilydd. Y testyn a ddewisodd oedd Salm exliv. 15."Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt; gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt." Ond methiant hollol fu y cynyg cyntaf o'i eiddo. Yr oedd wedi meddwl tipyn ar y geiriau, ac wedi ysgrifenu ychydig, ond nid oedd pethau yn dyfod yn rhwydd iawn, ond gobeithiai y deuai pethau i'w feddwl wedi iddo ddechreu llefaru. Ond erbyn codi i fyny a darllen ei destyn, gwelai ei bod yn tywyllu arno, ac yn lle cael pethau ychwanegol, yr oedd hyd yn nod yn methu cofio y pethau a ysgrifenodd, ac ar ol hwylio yn mlaen yn annyben am ychydig, bu dda ganddo ei rhoddi heibio mewn cywilydd. Teimlodd yn siomedig iawn oblegid v tro, er y gwyddai fod y cyfeillion oll yn cydymdeimlo ag ef. Ond ni pharodd ei fethiant cymharol iddo dori ei galon, ond yn hytrach deffrodd ei benderfyniad i ymroddi yn fwy, ac i barotoi rhywbeth i'w ddyweyd cyn ymddangos o hono yn gyhoeddus ger bron cynnulleidfa. Gwnaeth ail gynyg arni mewn cyfarfod eglwysig canol mis yn Bethlehem, a bu yn fwy llwyddianus y tro yma, a hyny oblegid iddo gymeryd darn o benod i'w hesbonio, a phan fyddai yn darfod arno mewn un adnod, ciliai i un arall, yn ol yr hen gyfarwyddyd, "pan y'ch erlidier mewn un ddinas, ffowch i un arall." Ymadawodd a'r ysgol yn St. Clears pan yn 18 oed, ac aeth i Gaerfyrddin i'r ysgol barotoawl, ac wedi treulio dwy flynedd yno, derbyniwyd ef i'r athrofa Bresbyteraidd, y pryd hwnw dan ofal Meistri D. Peter a D. Davies, Llanybri, ac arhosodd yno bedair blynedd. Gwnaeth gynydd mawr mewn dysgeidiaeth yn ystod blynyddoedd ei arhosiad yn Nghaerfyrddin, ac ennillodd ffafr neillduol ei athrawon, yn enwedig Mr. Peter, a bu yn dra llafurus fel aelod yn Heol Awst yr holl amser y bu yno, fel y teimlai yr eglwys hiraeth mawr ar ei ol ar ei ymadawiad, a safai yn uchel byth yn ngolwg y genedlaeth hono.

Y flwyddyn ddiweddaf y bu yn yr athrofa, yr oedd ar gais Dr. George Lewis wedi bod yn ymweled a rhai manau yn y Gogledd, ac wedi addaw i'r eglwys yn y Graig, Machynlleth, yr hon oedd yn amddifad o weinidog, i ymweled a hwy drachefn. Pan oedd tymor ei efrydiaeth bron ar ben, cafodd wahoddiad i fyned i Benybont-ar-ogwy, ond teimlai ei fod yn rhwym yn ol ei addewid i fyned i Fachynlleth yn gyntaf, a darfod a hwy cyn dechreu gydag un lle arall. Anfonwyd gwahoddiad iddo hefyd o Lanedi a Llanelli, y rhai oeddynt y pryd hwnw, yn un weinidogaeth, ond teimli fel pe buasai yn rhwym yn yr ysbryd i fyned i Fachynlleth, a diau genym fod llaw neillduol gan ragluniaeth yn hyny. Mae yn nodedig i'w gofnodi ddarfod i'r eglwysi yn Mhenybont a Llanedi, at y rhai y gwrthododd Mr. Griffiths fyned, rwygo yn ddioed ar ol hyny, a rhwygwyd y ddwy gan yr un dyn, yr hwn oedd yn ddyn doniol, ond yn benboeth a difarn. Derbyniodd Mr. Griffiths alwad yr eglwys yn Machynlleth, a'r canghenau, ac urddwyd ef yno Mawrth 7fed, 1807. Yr ydym eisioes wedi rhoddi enwau y gweinidogion oedd yn bresenol ar y pryd yn nglyn a hanes yr eglwys hono, ond rhoddwn yma drefn gwasanaeth yr urddiad. Pregethwyd ar natur eglwys, a holwyd y gofyniadau gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin, ac i'r eglwys gan Dr. Lewis, Llanuwchllyn. Yr oedd maes llafur Mr. Griffiths ar y dechreu yn cyrhaedd o Aberhosan i Lwyngwril, pellder o fwy nag ugain milldir, ac yntau yn ymroddi i gyflawni ei weinidogaeth yn ei gylch eang. Bu ei holl gysylltiadau gweinidogaethol yno yn nodedig o hapus, a bu dyfod i gyffyrddiad mor agos a'r