Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diweddar Mr. John Roberts, Llanbrynmair, yn fantais nodedig iddo yn nadblygiad ei feddwl, yr hwn oedd yn naturiol yn gogwyddo at gwestiynau duwinyddol. Yn ystod ei arhosiad yn Machynlleth, sef yn y flwyddyn 1811, cyhoeddodd lyfryn bychan ar Drefn yr Eglwys dan y Testament Newydd. Amcan y llyfr oedd egluro ac amddiffyn y drefn gynnulleidfaol, ac yr oedd y fath lyfr ar y pryd yn dra angenrheidiol, pan nad oedd ond ychydig o sylw wedi ei dalu i'r pwnge. Cyn ei ymadawiad a Machynlleth rsgrifenodd ddernyn byr ar Eyllys Duw, yr hwn a gyhoeddwyd yn nglyn a'r llyfryn bychar hwnw o eiddo Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, ar Daybenion marwolaeth Crist. Creodd cyhoeddiad y llyfr bychan hwnw gyffroad dirfawr, fel y cawsom achlysur i sylwi yn nglyn a bywgraphiad Mr. John Roberts. Parodd i ddynion rhydd a goleuedig i ymholi "a ydyw y pethau felly?" ond dihunodd holl gynddaredd dynion culion a rhagfarnÎlyd, fel nad oedd unrhyw ddirmyg yn ormod i'w bentyru ar yr ysgrifenwyr. Yr oedd cymhwysder neillduol yn Mr. Roberts ar gyfrif ei ostyngeiddrwydd, ei arafwch, a'r grel uchel oedd gan bawb am ei dduwioldeb, i fod yn arweinydd yn y dadleuon hyn, ond yr oedd yn dda iddo ar y pryd ei fod yn cael ei gefnogi gan un o ysbryd dyfalbarhaol a di-ildio Mr. Griffiths, onide y mae perygl y buasai iddo ymollwng gan mor gryf oedd y gwrthwynebiad.

Ar yr 17eg o Hydref, 1811, priododd Mr. Griffiths a Miss Sarah Phillips, Llanferan, boneddiges grefyddol, yr hon oedd yn aelod o'r eglwys yn Rhodiad. Am y flwyddyn gyntaf ar ol priodi bu yn byw yn Llanferan, ac yn myned am ddau Sabboth o bob mis, yr holl ffordd, at bobl ei ofal i Machynlleth, a gofalai am ryw rai eraill i bregethu iddynt y ddau Sabboth arall. Ond yn mhen y flwyddyn, symudodd ef, a'i wraig, a'u plentyn i Fachynlleth, a buont yno am ddwy flynedd, hyd nes y cymerodd amgylchiad le a osododd angenrheidrwydd ar Mr. Griffiths i ddychwelyd i Lanferan, ac felly symudodd ef a'i deulu yno cyn diwedd y flwyddyn 1814. Derbyniodd alwad i gydlafurio a Mr. W. Harries, Rhodiad, a chynaliwyd cyfarfod i gydnabod y berthynas. Llafuriodd yn Rhodiad, Tyddewi, a Berea fel gweinidog am ddeugain mlynedd, ac ni bu gweinidog erioed yn sefyll yn uwch yn ngolwg ei bobl; ond yn 1854, teimlai nas gallasai sefyll yn hwy dan bwys y gwaith, ac ymryddhaodd o'i ofal gweinidogaethol, er iddo barhau i bregethu yn achlysurol hyd y gallodd. Byddai yn dilyn y cyfarfodydd gartref yn lled gyson, ac elai oddicartref yn aml i gyfarfodydd y sir. Yr oedd yn nghymanfa Henllan yn haf 1856, a dyna y tro diweddaf y gwelsom ef. Ymddangosai wedi gwaelu yn fawr, ac wedi colli y craffder hwnw oedd mor amlwg ynddo yn nyddiau ei nerth. Pregethodd yno y noswaith ddiweddaf gyda thynerwch ar ddedwyddwch y nef, ac yr oedd yn amlwg ar ei ysbryd ei fod yn addfedu i'r mwynhad o hono. Bu fyw ddau auaf ar ol hyny, ond yr oedd yn myned yn amlycach arno bob dydd fod y byd yma yn colli ei swynion iddo. Boreu Sabboth Ebrill 11eg, 1853, ni chododd o'i wely, ond bwytaodd ei giniaw gyda blas anarferol, ac wedi gorphen, talodd ddiolch gyda llais cryf a bywiog, a chyn dyweyd yr un gair arall, "hunodd yn yr Iesu." Claddwyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent hen Eglwys Gadeiriol Tyddewi, lle gorphwys ei gnawd mewn gobaith am adgyfodiad gwell.

Gan fod Mr. Griffiths yn ddyn anghyffredin, wedi cael byw i oedran teg, ac wedi cymeryd ei ran gyda holl symudiadau cyhoeddus ei oes, goddefer i ni wneyd rhai cyfeiriadau helaethach at ei fywyd a'i gymeriad.