Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O ran y dyn oddiallan, bychan o gorpholaeth oedd Mr. Griffiths, ond yr oedd yn nodedig o drefnus a glanwaith ei berson a'i wisg, yn chwim a hoyw yn ei holl symudiadau, ac yn serchus a boneddigaidd yn ei gyfarchiad. Nid oedd yn enwog fel pregethwr. Er fod ei barabl yn rhwydd a naturiol, ac nad oedd byth ball arno am eiriau i ddyweyd ei feddwl; etto nid oedd yn meddu y gwres a'r tanbeidrwydd sydd yn ofynol i wneyd pregethwr poblogaidd. Athraw a dysgawdwr ydoedd yn fwy nag areithiwr. Rhagorai fel bugail gofalus yn fwy nag fel efengylwr cyffrous. Ond yr oedd yn bregethwr derbyniol a chymeradwy gan wrandawyr deallus a meddylgar, ac nis gallasai gwrandawyr astud lai na theimlo yn well ar ol ei glywed. Pregethai yn athrawiaethol ac ymarferol, ac yr oedd yn meddu gallu nodedig i osod gwedd ymarferol ar bob gwirionedd. Yr oedd yn ddyn gwerthfawr mewn gwlad, a chariai ddylanwad ar bob dosbarth. Trwy ei wybodaeth gyffredinol, a'i gydnabyddiaeth a symudiadau gwladyddol y byd, ei fedrusrwydd yn achosion cyffredin bywyd, ei bwyll a'i degwch mewn amgylchiadau o anghydwelediad rhwng cymydogion, a'i safiad parchus fel dyn cyfrifol yn y byd, edrychid i fyny ato fel oracl yn ei ardal, ac yr oedd yn fwy ei ddylanwad nag unrhyw ynad heddwch yn y wlad. Bu yn ddyn gwasanaethgar iawn i'w enwad, a chymerai ran amlwg gyda phob peth cyhoeddus. Yn nghylch y gymanfa, efe, am dymor hir, oedd un o'r prif arweinwyr, a gelwid arno yn fynych i lywyddu mewn cynadleddau, a hyny mewn cyfnod pryd y cyfrifid cael y gadair yn anrhydedd, na roddid hyny i neb ond yr oedranus a'r profedig; ac yr oedd efe yn llywydd doeth a medrus. Rhagorai ar y rhan fwyaf yn ei allu í drin amgylchiadau allanol yr achos. Gwasanaethodd fel ysgrifenydd i'r Gymdeithas Genhadol, yn y rhan Gymreig o sir Benfro, am yn agos i ddengmlynedd-ar-hugain, ac ni bu yn segur na diffrwyth yn y swydd. Yr oedd o feddwl cryf a galluog, ac yr oedd y meddwl hwnw wedi ei ddiwyllio yn dda. Mewn eangder amgyffrediad, a gallu i weled yn glir, a dyweyd ei feddwl ar unrhyw beth yn eglur, yr oedd yn anhawdd cael ei ragorach. Yr oedd yn nodedig am ei allu i elfenu a dadansoddi, a dwyn pob gwir ionedd i ffurf gyfundrefnol. Gallasai gynwys llawer o bethau yn ei feddwl ar unwaith, a'u cadw ar wahan, a'u cydbwyso, gan osod y naill ar gyfer y llall, a ffurfio ei farn yn annibynol yn eu canol oll. Y cydbwysiad yna yn ei alluoedd oedd ei brif ragoriaeth meddyliol. Nid oedd rhedeg i eithafion yn brofedigaeth iddo. Ei berygl mwyaf ef oedd oddiwrth ei annibyniaeth, yr hyn a'i gwnelai yn anhyblyg, ac ymddangosai weithiau yn ymylu ar gyndynrwydd. Ffurfiai ei farn yn bwyllog, ac unwaith y gwnai ei feddwl i fyny ar unrhyw beth, gorchwyl anhawdd oedd ei symud. Ysgrifenodd lawer i'r Dysgedydd a'r Diwygiwr; a phan yr elai y ddadl yn boeth ar ryw fater rhwng rhyw ddau, deuai ef i'r maes fel canolwr, a'i amcan bob amser fyddai dwyn y pleidiau at eu gilydd, a cheisiai wneyd y gwahaniaeth rhyngddynt mor fychan ag y byddai yn bosibl. Ysgrifenodd lawer ar Ddysgyblaeth Eglwysig, a dadleuai yn gryf yn erbyn diarddeliad uniongyrchol, beth bynag fyddai y trosedd. Nid tynerwch at bechod mewn un modd a barai ei fod yn dadleu felly. Yr oedd yn ddyn pur a manwl ei hun, ac yn llym iawn yn erbyn drygau yn eraill, ond credai ef na ddylesid diarddel unrhyw droseddwr, heb yn gyntaf wneyd pob ymdrech i adgy weirio y cyfryw un, ac mai wedi i ddyn fyned yn brofedig ddrwg, ar ol ymdrech y dynion goreu i'w ddiwygio, yr oedd "bwrw y dyn drygionu hwnw o'u myeg," yn dyfod yn ddyledswydd ar yr eglwys.