Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond yn nglyn a dudl fawr y System Newydd y gwnaeth ei hunan yn fwyaf hysbys, ac y cyfarfu a mwyaf o wrthwynebiad. Yr oedd wedi ci ddwyn i fyny mewn golygiadau uchel-Galfinaidd, ac nid gorchwyl hawdd oedd iddo ymryddhau oddiwrthynt, ac nid oedd dim ond argyhoeddiad dwfn fod y golygiadau hyny yn rhoddi gwedd unochrog ar drefn yr efengyl, a allasai beri i un o'i feddwl pwyllog a phenderfynol ef i ymddiosg oddiwrthynt. Bu ei feddwl am ysbaid maith yn myned dan gyfnewidiad, ac yn raddol iawn y daeth i goleddu y syniadau eang oedd ganddo ar drefn yr iachawdwriaeth. Darllen gweithiau Dr Edward Williams, a chymdeithasu a Mr. Roberts, Llanbrynmair, a fu y prif foddion i eangu ei olygiadau. Megis y crybwyllasom eisioes, yn nglyn a hanes Mr. Roberts, efe oedd y cyntaf i bregethu y system newydd mewn cymanfa. Gwnaeth hyny yn Nhreffynon, mewn cymanfa, yn 1809.* Yr oedd efe yn un o "Seithwyr y Llyfr Glas," fel y gelwid Galwad Difrifol Mr. J. Roberts. Yn y Gogledd yr oedd prif amddiffynwyr y golygiadau hyny, ac yr oedd gwrthwynebiad cryf iddynt gan hen weinidogion ac eglwysi y De, ac oblegid hyny dyoddefodd Mr. Griffiths oddiwrth ei frodyr ei hun fwy nag a ddyoddefodd yr un arall o ysgrifenwyr y Llyfr Glas. Pan y sefydlodd ef yn sir Benfro yn y flwyddyn 1814, yr oedd yr holl hen weinidogion yn uchel-Galfiniaid, a Mr. Harries, Rhodiad, ei gydlafurwr, yn nodedig felly. Edrychid arno gyda chilwg fel un yn dwyn i mewn heresiau dinystriol, ac yr oedd yr enwau o dan ba rai y dynodid ef yn mhell o fod yn frawdol. Mae Mr. Griffiths ei hun wedi ysgrifenu yr holl hanes, ac y mae y cwbl wedi ei gyhoeddi yn ei gofiant[1]. Mae yn hawdd deall ar yr adroddiad, er iddo gael ei ysgrifenu yn mhen mwy na deugain mlynedd wedi i'r peth gymeryd lle, fod yr amgylchiadau wedi chwerwi ei ysbryd yn fawr, ac y mae yn fwy na thebyg iddo yntau ddyweyd geiriau caledion am ei wrthwynebwyr. Bu cyfarfod gweinidogion yn Maenclochog, yr hwn a alwyd yn ddirgelaidd, a'r hwn, yn ol fel y deallodd Mr. Griffiths, oedd wedi ei alw er mwyn ei fwrw of a'i frawd, Mr. B. Griffiths, Trefgarn, allan o'r cyfundeb, ond daethant i wybod am dano, ac aethant yno yn annisgwyliadwy, fel y dyryswyd yr holl gynlluniau. Yr oedd Mr. Griffiths yn fwy galluog mewn dadl na hwynt oll, heblaw eu bod wedi camddeall, ac oblegid hyny yn camesbonio ei olygiadau yn hollol. Yr oedd yn credu graslonrwydd yr iachawdwriaeth, a bwriadau neillduol yr Anfeidrol, mor ddiysgog ag un o honynt, ond ei fod ef yn rhoddi i'r drefn wedd fwy ymarferol, gan ddangos rhwymedigaeth pawb oedd yn clywed yr efengyl i'w chredu. Ond aeth yr ystorm hono heibio, a daeth ei frodyr ag yntau i ddeall eu gilydd, a'r rhan fwyaf o honynt bob yn ychydig i bregethu yn hollol yr un golygiadau.

Ni ddian godd Mr. Griffiths, er ei holl bwyll a'i ddoethineb, rhag cyfarfod a phrofedigaethau. Nid rhyw lawer o drallodion eglwysig a gafodd yn ei ocs hir, ond ni ddiangodd yntau yn hollol rhagddynt. Daeth dyn ieuangc i'r gymydogaeth i gadw ysgol-dyn dichellgar a drygionus-a gwnaeth egni i gasglu plaid yn erbyn yr hybarch weinidog, a llwyddodd i suro meddyliau ychydig bersonau yn ei erbyn, er na wnaeth un niwaid iddo yn ngolwg corph yr eglwys. Nid Paul oedd y diweddaf i gwyno oblegid rhyw rai a wnaeth iddo ddrygau lawer." Yn nechreu y flwyddyn 1824,

  1. Cofiant y Parch. J. Griffiths, gan Simon Evans, Hebron.