Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bu farw ei wraig ar ol bod yn dihoeni mewn gwaeledd am ddwy flynedd, a gadawyd yntau gydag wyth o blant bach, a'r hynaf o honynt heb fod ond ychydig dros ddeg oed. Ond nid ymollyngodd mewn un modd, ond ymaflodd o ddifrif yn ei waith, gan ymddiried yn ei Dduw. Gwelodd ddau o'i feibion yn parotoi i'r weinidogaeth, a gwelodd ei fab arall yn ddiacon defnyddiol yn yr eglwys yn Nhyddewi, a'i ferched mewn amgylchiadau bydol cysurus, yn aelodau crefyddol, yn wragedd i swyddogion eglwysig, a'r ieuengaf o honynt yn wraig i Mr. Simon Evans, Hebron, yr hwn sydd yn olynydd teilwng o'i dad-yn-nghyfraith yn ngweinidogaeth yr enwad yn sir Benfro. Dichon mai yn ei deulu, wedi y cwbl, y gwelid ef i fwyaf o fantais. Rhodiodd yn mherffeithrwydd ei galon o fewn ei dy. Yr oedd ei aelwyd yn ysgol, a phawb arni yn derbyn addysg, ac nid anghofir gan lawer o'r rhai a gawsaut yr hyfrydwch o ymweled a Threliwyd, pan oedd ef yno, a'i blant o'i gylch, yr oriau hapus a dreulient yn nghyd.

Mae Mr. Griffiths yn ei ysgrif yn adgofio un amgylchiad a ddigwyddodd pan oedd ef yn Machynlleth, nas gallwn ymatal heb ei gofnodi yma. Rhoddwn ef i lawr yn ngeiriau Mr. Griffiths ei hun.

"Yr oedd yn eglwys Machynlleth un hen ŵr tlawd ag oedd yn gyflawn ei ddawn mewn gweddi, a byddai yn aml yn cael ei alw i weddi yn y cyfarfodydd eglwysig. Yr oeddwn wedi sylwi arno pan y byddai yn gweddio, drosof fi yn neillduol, gyda golwg ar hyn, ei fod yn helaeth iawn. Yr oeddwn i raddau yn anfoddlawn iddo, am fy mod yn ofni ei fod yn gwenieithio i mi. Yr oedd mab iddo yn gofalu am fy ngheffyl i'w lanhau a'i fwydo. Un hwyr Sabboth pan oeddwn yn myned i Aberhosan, ac oddiyno yn mhellach boreu dranoeth, dywedais wrth y bachgen na byddai raid iddo feddwl am y ceffyl, am nad oeddwn yn bwriadu dychwelyd y noswaith hono. Ond wedi hyny daeth angenrheidrwydd am i mi ddychwelyd, ac wedi rhoddi y ceffyl yn y tŷ, aethum yn union i hysbysu i'r bachgen ei fod yno. Yr oedd ei dad yn byw mewn heol gul, fach, yn troi o'r heol fawr. Pan aethum yn agos at y tŷ, deallais fod yr hen ŵr ar y weddi deuluaidd. Felly neseais mor ddistaw ag y gallwn at y drws. Clywais ef yn gweddio yn daer iawn dros ei deulu bob yn un ac un, yna am fendith ar waith y dydd hwnw, yna dros weinidogion y gair yn gyffredinol, ac yna droswyf finau yn neillduol. Ac os oedd yn helaeth yn y cyfarfodydd eglwysig, yr oedd yn llawer mwy felly yn awr, ac yn ymddangos i mi yn ddifrifol iawn, a chyda theimlad dwys. Nis gallaswn lai na wylo wrth ei glywed, a'm calon yn ddirgel yn rhoi ei hamen gyda phob deisyfiad. Gwyddwn nas gallasai fod ganddo un dychymyg fy mod i yn ei glywed. Dywedais yn fy meddwl-'Gweddia faint fynot ti droswyf fi yn gyhoedd bellach, ni feddyliaf byth dy fod yn gwenieithio i mi.' Yr oeddwn yn teimlo yn euog am fy mod wedi coleddu y meddwl hwnw am dano. Teimlais wedi hyny lawer o gysur a chalondid wrth feddwl ei fod of, ac eraill o'r fath, yn gweddio yn ddifrifol felly drosof."

Nis gwyddom pwy oedd y gwr tlawd duwiol hwnw, gan nad yw ei enw wedi ei adael i ni, ond y mae yn dda genym gael cofnodi y ffaith, a chyda hyny, yr ydym yn canu yn iach i'r hybarch GRIFFITHS, TYDDEWI.

BEREA.

Yr ydym eisioes wedi rhoddi hanes yr achos yma gyfnodyn ei cyntaf yn nglyn a Thyddewi. Rhodiad oedd y cyff gwreiddiol hyd nes yr ymwahanodd