Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr achos yn ddwy gainge yn Nhyddewi a Berea. Gelwir y rhan uchaf o blwyf Dewi y Cylchmawr, ac y mae Berea yn sefyll yn y Cylch hwnw. Yn Pwllcaerog, yn ymyl yma, fel y crybwyllasom eisioes, y pregethwyd y bregeth gyntaf gan yr Annibynwyr yn y plwyf, a thraddodwyd yno ganoedd o bregethau o bryd i bryd, a byddai pregethwyr wrth dynu eu cyhoeddiadau i fyned trwy y wlad i bregethu yn trefnu i fod yn Pwllcaerog, fel pe buasai yno gapel, ac ni wyddai llawer nes dyfod i'r İle nad felly yr ydoedd. Ar ol hyny bu pregethu ar gylch bob mis ar brydnawnau Sabboth mewn tri lle yn y gymydogaeth, sef Trefochlyd, Caerhys, a Pwllcaerog, a phregethid gan bregethwyr o wahanol enwadau, oblegid yr oedd ychydig Fethodistiaid a Bedyddwyr yn gystal ag Annibynwyr yn yr ardal. Yr oedd cyfarfodydd gweddi a chyfeillachau crefyddol yn cael eu cynal yn yr aneddau hyn yn achlysurol, ac yr oedd math o ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn Pwllcaerog. Cynygiodd Mr. Henry Perkins, Caerhys, dir iddynt at adeiladu ysgoldy bychan at gynal ysgol Sabbothol, a phregethu yn achlysurol, ac os gwelid angen, i gadw ysgol ddyddiol. Aelod gyda'r Methodistiaid oedd Henry Perkins, a bwriedid i'r lle i wasanaethu i'r tri enwad yn ddiwahaniaeth, ond gwrthododd y Bedyddwyr a'r Methodistiaid o herwydd ryw resymau ag uno, ac felly daeth y lle i feddiant yr Annibynwyr. Tynwyd gweithred ar y tir, ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1833, a galwyd ei enw Berea. Nid oedd un o'r enw yn Nghymru y pryd hwnw, ond y mae amryw erbyn hyn. Bu y lle mewn cysylltiad a Rhodiad, a'r aelodau yn cyrchu yno bob mis i'r cymundeb, ac wedi hyny bob tri mis hyd nes y corpholwyd yma eglwys Annibynol yn y flwyddyn 1849. Yr oedd y lle o'r dechreuad wedi bod o dan ofal Mr. Griffiths, a phan yr urddwyd Mr. J. Lloyd Jones yn Hydref, 1847, i fod yn gydweinidog ag ef, yr oedd y ddau i gydlafurio trwy yr holl gylch. Yn y flwyddyn 1849 helaethwyd y capel, oblegid fod cynydd y gynnulleidfa yn galw am hyny. Parhasant felly hyd ddiwedd y flwyddyn 1854, pan y teimlodd Mr. Griffiths fod yn rhaid iddo o herwydd gwendid a llesgedd henaint roddi y weinidogaeth i fyny, a chan nas gallasai Mr. Jones ofalu am yr holl faes fel o'r blaen, cyfyngodd ei lafur i Dyddewi yn unig. Bu yr eglwys yn Berea am flynyddoedd ar ol hyn heb sefydlu ar weinidog, ond dibynent ar gynorthwy gweinidogion y sir, ac eraill, hyd y flwyddyn 1860, pryd y cydunasant a'r eglwys yn Rehoboth i roddi galwad i Mr. Thomas Jenkins, M.A., myfyriwr o brif athrofa Glasgow, ac urddwyd ef Rhagfyr 20fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Ll. Jones, Penyclawdd; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. D. Bateman, Rhosy caerau; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Davies, Glandwr; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Rees, Llanelli, ac i'r eglwys gan Mr. J. Lewis, Heullan. Bu Mr. Jenkins yma yn llafurio am fwy na thair blynedd, hyd nes y gwnaeth ei feddwl i fyny i ymfudo i Queensland, lle y mae etto. Weoi bod am dair blynedd drachefn heb weinidog, rhoddodd yr eglwys yma ar eglwys yn Rehoboth alwad i Mr. David Johns, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mai 8fed, 1867. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Proff. Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Griffith, Falfield; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Evans, Hebron; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. Morgan, Glynnedd, ac i'r eglwys gan Mr. J. Davies, Glandwr. Mae Mr. Johns yn parhau i lafurio yma, ac y mae yr achos mewn agwedd lewyrchus. Sonir yn awr am adnewyddu y capel.