Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chodwyd yma yr un pregethwr, ond bu Mr. William Evans, gwr ieuangc o gymydogaeth Llanboidy, yma yn cadw ysgol, ac yn pregethu yn achlysurol, yn fuan wedi codi y capel; ac ar ei ol ef bu Mr. Samuel Thomas yma am ysbaid cyn ei fynediad i athrofa Aberhonddu, a gwnaeth y ddau lawer o les yn y gymydogaeth.

Yn mysg llawer a fu yma yn ddefnyddiol ar ol sefydliad yr achos yn Berea, crybwyllir yn barchus am enwau William Beynon, Treiago, yr hwn oedd yn nodedig ar gyfrif treiddgarwch a bywiogrwydd ei feddwl. Thomas Perkins, Pwllcaerog, a'i wraig, oeddynt yn nodedig am eu llettygarwch, ac fel Zacharias ac Elizabeth gynt, "ill dau yn gyfiawn, ac yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd." Mrs. Howells, Cwmwedig, a fu am dymor hir yn un o brif golofnau yr achos. Stephen Morris, Tremynydd, oedd ŵr crefyddol a rhinweddol, ac a wasanaethodd swydd diacon yn yr eglwys. Bu Mr. a Mrs. Thomas, Crug-glas, yn noddwyr caredig i'r achos yn Berca o'i gychwyniad, ac ar eu hol hwy bu eu mab, Thomas Thomas a'i wraig, hyd eu marwolaeth, yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd yn y lle. Yr oedd Mr. Thomas yn ddyn o alluoedd cryfion, ac wedi cael addysg dda, ac yn alluog iawn i drin materion gwladol ac eglwysig. Henry Reynolds oedd ddyn ieuange tulentog, a bu o wasanaeth mawr gyda'r canu a'r ysgol Sabbothol. Nid ydym yn cyfeirio at y byw, onide gallem enwi rhai sydd yn mhob ystyr yn deilwng o'r rhai sydd wedi blaenu, ac y mae crefydd yn aros yn y teuluoedd fu yma yn noddi yr achos ar ei gychwyniad. Mae yma dri henafgwr "o gryfder wedi cyrhaedd pedwar ugain" mlynedd, y rhai ydynt gadarn yn yr ysgrythyrau, yn afaelgar mewn gweddi, ac yn iraidd a gwresog eu hysbryd, sef John Reynolds, Gilbert Howell, a John Harris.[1]

Y diaconiaid presenol ydynt Peter Perkins, David Perkins, William Roach, Thomas John, a James Thomas, yr hwn hefyd sydd yn pregethu yn achlysurol.

RHOSYCAERAU.

Saif y capel hwn tua dwy filldir i'r de-orllewin o dref Abergwaun. Mr. William Maurice, Trefgarn, fu yr offeryn i ddechreu yr achos yma. Ya ol yr hanes sydd genym, daeth Mr. Maurice i'r ardal hon i bregethu y waith gyntaf yn y flwyddyn 1720, sef y flwyddyn y dechreuodd ei laftr yn Nhrefgarn. Pregethodd ar ben carnedd o gerig yn yr awyr agored, yn agos i'r fan y mae y capel yn bresenol. Ei destyn oedd Actau xviii. 10, "Canys yr wyf fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti; oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon." Ar ol hyn buwyd yn pregethu mewn anedd-dy yn yr ardal am oddeutu pedair blynedd. Yr oedd pregethu yr efengyl yn yr ardal hon y pryd hwnw yn beth hollol ddyeithr i'r trigolion, ac am hyny yndyrai lluaws i wrando o gywreinrwydd. Nid ydym wedi cael hanes i unrhyw erledigaeth gael ei chyfodi yma yn erbyn yr achos ar ei gychwyniad. Yn y flwyddyn 1724, adeiladwyd capel yma, ar ddarn o dir a roddesid ar les am 999 o flynyddau gan J. Perkins, Ysw., o Landridian. Yn llyfr eglwys y Green, Hwlffordd, yr ydym yn cael i'r eglwys hono roddi clustog ac addurniadau y pulpud yn anrheg i'r achos newydd hwn. Mr. David Perkins dderbyniodd yr anrheg

  1. Llythyr Mr. D. Johns.