Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiwrth ddiaconiaid Hwlffordd. Dichon mai mab Mr. J. Perkins, yr hwn a roddodd y tir at adeiladu y capel, oedd Mr. David Perkins, a thebyg fod y tad a'r mab yn mysg yr aelodau cyntaf yma. Yn fuan ar ol adeiladu y capel, cafodd eglwys ei chorpholi ynddo. Chwech oedd rhif yr aelodau ar amser eu corpholiad-pum' dyn ac un ddynes. Yr oedd yn syndod mawr yn yr ardal fod gwraig yn cael ei derbyn yn aelod, fel pe na buasai ganddi hi enaid i'w golli na'i gadw. Dywedir fod y ddynes dda hon unwaith yn myned o gyfarfod eglwysig, ac iddi gyfarfod a chymydog an ystyriol, yr hwn a ofynodd iddi, "Mari, pa le buost ti heddy w ?" Atebodd hithau, "Mewn cwrdd eglwys." "Nid wyf fi," ebe yntau, "yn gallu dirnad beth all fod genych o hyd yn eich cwrdd eglwys." Hithau

briodol a atebodd, "Nid yw yn perthyn i chwi wybod, ond gallaf sicrhau i chwi nad oedd yno air o son am eich enw chwi." Hyfryd fyddai fod pob gwraig a merch grefyddol mor ddoeth a'r wraig hon, gan fod yn ofalus i beidio taflu y peth sydd "santaidd i'r cwn a'r gemau o flaen moch." Wedi i Mr. Maurice fod yn llafurio yma ac yn Nhrefgarn am oddeutu dwy-ar-bymtheg-ar-hugain o flynyddau, yn y flwyddyn 1757, urddwyd Mr. Morris Griffiths yn gydweinidog ag ef. Bu Mr. Griffiths yn llafurus a Ilwyddianus iawn yma hyd ei farwolaeth yn 1769. Wedi colli y gweinidog da hwn, bu raid i'r eglwysi yn Nhrefgarn a Rhosycacrau edrych allan am gynorthwywr arall i'w hen weinidog, yr hwn, erbyn hyn, oedd wedi Dewisasant Mr. John Richards, o athrofa myned yn oedranus iawn. Abergavenny, yr hwn, fel y nodwyd yn hanes Trefgarn, a gymeradwy wyd i sylw yr eglwysi gan eu diweddar weinidog, Mr. Griffiths, pan yr oedd ar ei wely angau. Yn Rhosy caerau yr urddwyd Mr. Richards yn 1770, ond yr oedd yn cydweinidogaethu a'r hen weinidog yn Nhrefgara hefyd, ac wedi marwolaeth Mr. Maurice yn 1778, syrthiodd gofal y ddwy glwys yn gwbl arno ef. Adfywiodd yr achos yn fawr yma wedi sefydl ad Mr. Richards, fel y bu raid helaethu yr addoldy y flwyddyn hono. Bu Mr. Richards yn llafurio yma gyda pharch a llwyddiant mawr, nes iddo fn 1795, benderfynu ymfudo i'r America. Ni bu gweinidog erioed yn fwy anwyl gan ei bobl, ac etto, yn hollo! groes i farn, teimlad, a dymuniad ei gyfeillion, mynodd ymfudo. Yr oedd wedi meddwl yn gryf fod rhyw farn i ddyfod ar y wlad hon, ac y byddai i'r Ffrangcod ddyfod drosodd i'r wlad hon i'w difrodi, ac oblegid hyny nid oedd perswadio arno i beidio myned. Gwerthodd ei feddianau, a rhoddodd bedwar cant o bunau mewn ariandy, fel y caffai hwy yn New York, ond cyn iddo lanio yno, torodd yr ariandy, a chollodd yntau ei holl arian, a bernir i hyny effeithio mor ddwfn mhen tair wythnos arno nes prysuro ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le "Dyn gwanaidd o gorph," medd Mr. Davies, wedi iddo lanio yn America. Rhosycaerau, "oedd Mr. Richards, ond yr oedd yn gryf a gwresog ei ysbryd, a thanllyd ei ddoniau. Gwnaeth lawer o ddaioni. Ysgubodd ymaith lawer o hen arferion drwg o'r ardaloedd, diddymodd 'feingciau'r celwydd,' sef lleoedd ag y byddid yn arfer cyfarfod ar brydnawnau Sabbothau i adrodd chwedleuau a chaneuon. Treuliai ddiwrnodau yn ddirgel yn ei lyfrgell i wylo a gweddio dros Seion pan dan ei chlwyfau. Dymunwn fod yn fwy tebyg iddo." Ar ol ymadawiad Mr. Richards, dewisodd eglwys Rhosycaerau Mr. James Meyler, un o'i haelodau, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn athrofa Gwrecsam, yn ganlyniedydd iddo. Urddwyd Mr. Meyler, Hydref 20fed, 1705. Traddodwyd ei siars ef gan ei athraw, Dr. Jenkin Lewis, oddiwrth