Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Phil. ii. 20, "Canys nid oes genyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi." Darfu i Mr. Meyler mewn modd effeithiol iawn wir ofalu am y pethau a berthynent i'r eglwys. Ymroddodd a'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth, a choronwyd ei lafur a llwyddiant mawr. Y flwyddyn gyntaf ar ol ei urddiad, adeiladodd gapel yn Abergwaun, a bu hefyd yn llafurus iawn, mewn cysylltiad a Mr. Morgans, Henllan, a Mr. Jones, Trelech, i sefydlu achosion yn y parth Saesonig o'r sir, megis St. Florence, Lamphey, a Rosemarket. Bu hefyd am lawer o flynyddau yn gweinidogaethu yn Keyston, mewn cysylltiad a Rhosycaerau ac Abergwaun. Yn 1804, ad-helaethwyd addoldy Rhosycaerau, yr hyn a ddengys nad oedd yr achos gartref yn dyoddef mewn un modd oblegid llafur Mr. Meyler i bregethu yr efengyl lle nid enwid Crist. Ond oherwydd ei fod yn gorfod rhoddi rhan helaeth o'i lafur i'r Saeson, barnodd ef a'r eglwysi y buasai yn ddoeth iddynt urddo Mr. William Davies, un o'r aelodau yn Rhosycaerau, yn gynorthwywr iddo. Yr oedd Mr. Davies wedi bod yn derbyn addysg dan ofal Mr. W. Griffiths, Glandwr, a Mr. T. Harries, Penfro. Urddwyd ef yn Abergwaun, yn gynorthwywr i Mr. Meyler, Tachwedd 6ed, 1806. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad, Meistri M. Jones, Trelech; P. Morris, Ebenezer; H. George, Brynberian; J. Davies, Bethlehem; J. Lloyd, Henllan; D. Jenkins, a T. Skeel, Trefgarn; W. Harries, Rhodiad, a D. Evans, Bangor, wedi hyny o'r Mynyddbach. Ar ol iddynt fod yn llafurio yn gysurus am agos ugain mlynedd yn Rhosycaerau, Abergwaun, a Keyston, &c., bu farw Mr. Meyler yn 1825. Yn ystod y tymor y buont yn cydweinidogaethu, buont yn offerynol i ddechreu achosion Baesonig yn Wolfsdale, St. Ishmael, Ticr's-cross, a Little-haven, ac i dderbyn llawer o ugeiniau o aelodau i'r eglwysi yn Rhosycaerau ac Abergwaun. Yn y flwyddyn 1826, adeiladwyd yma addoldy newydd helaeth a chyfleus. Wedi marwolaeth Mr. Meyler, bu raid i Mr. Davies roddi gofal yr eglwysi Saesonig i fyny, a chyfyngu ei lafur i Rhosycaerau ac Abergwaun. Yn y flwyddyn 1827, daeth Mr. David Bateman, gwr ieuangc o Drewyddel, ond a fuasai dan addysg yn y Neuaddlwyd, yma i gadw ysgol, ac i gynorthwyo Mr. Davies yn y weinidogaeth. Yr oedd Rhosycaerau ac Abergwaun hyd yn hyn yn un eglwys, ond yn yr adeg yma ymwahanasant i fod yn eglwysi Annibynol, er dan yr un weinidogaeth. Ar ol cael cyflawn brawf ar ddoniau a chymhwysderau Mr. Bateman, rhoddwyd galwad iddo i fod yn gydweinidog a Mr. Davies, ac urddwyd ef Chwefror 26ain, 1840, pryd yr oedd y gweinidogion canlynol yn wyddfodol, ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth:-Meistri W. Davies, Abergwaun; J. Griffiths, Tyddewi; T. Mortimer, Solfach; D. Davies, Aberteifi; D. Davies, Zion's-hill; W. Miles, Tyrhos; J. Davies, Glandwr; B. James, Llandilo, a B. Griffiths, Trefgarn. Mae Mr. Davies a Mr. Bateman wedi bod yn cydlafurio yma bellach, fel gweinidogion, er's mwy na deuddengmlynedd-ar-hugain, a'r Arglwydd wedi bendithio eu llafur mewn modd nodedig. Helaethwyd y cylch gweinidogaethol yn 1840, trwy adeiladu capel Rehoboth, yn agosi Mathry. Adeiladwyd hefyd yr un flwyddyn gapel a elwir Salem, yn agos i Bencaer, lle y glaniodd y Ffrangcod yn 1797. Codwyd y capel bychan yma ar ystad W. James, Ysw., Trenewydd, yr hwn oedd yn ddiacon ffyddlon yn Rhosycaerau. Mae yn addoldy prydferth gyda thy anedd, ac ystabl, a mynwent, yn nglyn ag ef, a'r cwbl wedi eu sicrhau i'r enwad am fil ond un o flynyddoedd. Costiodd 200p., ond talodd