Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. James y cwbl, a rhoddodd 100p. hefyd at adeiladu Rhosycaerau, a 150p. at gapel Abergwaun. Bu farw y boneddwr haelionus hwn Chwefror 3ydd, 1845, yn 85 oed, ac y mae ei hiliogaeth ar ei ol yn gynorthwyol iawn i'r achos. Nid oes eglwys wedi ei ffurfio yn Salem, ond y mae yma gymundeb yn achlysurol, ac ysgol Sabbothol yn rheolaidd, a phregeth neu gyfarfod gweddi bob nos Sabboth. Mae Mr. Davies etto yn fyw, ond ei fod er's blynyddau bellach yn analluog oherwydd methiart i gyflawni unrhyw wasanaeth cyhoeddus. Mae wedi ei urddo er's triugain a-chwech o flynyddau. Efe yn awr yw y gweinidog hynaf yn Nghymru ond Mr. Williams, Troedrhiwdalar. Y mae ei feddwl etto yn parhau yn fywiog a siriol, ond fod ei gorph wedi llesgau yn fawr. Dymunwn iddo lawer o fwynhad o gysuron yr efeng a bregethodd mor llwyddianus am gynifer o flynyddoedd, nes y gwelo ei Feistr nefol yn dda i'w alw i mewn i lawenydd ei Arglwydd.

Mae eglwys Rhosycaerau yn awr mor lluosog a llewyrchus ag erioed, er fod y canghenau yn Abergwaun a Rehoboth yn eglwysi iluosog. Heblaw capel bychan Salem, adeiladwyd addoldy bychan, yn y flwyddyn 1865, o fewn dwy filldir i'r deheu o Rhosycaerau, ac agorwyd ef Mawrth 27ain a'r 28ain, 1866. Cynhelir yma ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddio, a phregethu mor aml ag y gellir. Gelwir ef Pantteg. Yn y flwyddyn 1868, eymerwyd ty bychan yn mhentref Tregeddylan, ychydig i'r gorllewin o Rhosycaerau, at gynal ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol.

Yn y flwyddyn 1807, y sefydlwyd yr ysgol Sabbothol gyntaf yn Rhosycaerau. Gwrthwynebid ei sefydliad gan rai, ac yr oedd amryw eraill fel Meroz, yn gwrthod ei chefnogi. Ond er y cwbl llwyddo a wnaeth ac ychwanegu cryfder, fel y mae yn bresenol yn amrywiol o ganghenau Newyrchus, yn cynwys canoedd rhwng athrawon ac ysgolheigion.

Heblaw y gweinidogion, Mr. Meyler a Mr. Davies, cyfodwyd y rhai canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

Azariah Shadrach. Bu ef yn ngwasanaeth Mr. Richards, ac yn yr adeg hono y dechreuodd bregethu.

Thomas Davies, yn awr o Wellington, sir Amwythig. Mab Mr. Davies, y gweinidog, yw efe.

H. Mathias, gweinidog yr eglwys Saesonig yn Wolfsdale.

William Thomas, gynt o Landysilio, yn awr o America.

Mae llawer o ddynion rhagorol am ea duwioldeb a'u defnyddioldeb wedi bod yn perthyn i'r achos hwn o bryd i bryd, ond gan nad ydym ni yn feddianol ar eu hanes, nis gallwn gofnodi eu henwau yma. Mae eu henwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd, yr hyn sydd yn anfeidrol fwy braint nag iddynt gael eu cofnodi mewn un llyfr ar y ddaear.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

Gan ein bod wedi rhoddi hanes gweinidogion cyntaf yr eglwys hon yn nglyn a hanes Trefgarn, nid oes genym ond un gweinidog i roddi hanes ei fywyd yma.

JAMES MEYLER. Ganwyd ef mewn lle a elwir Penysgwarn, yn mhlwyf Llanwnda, yn y flwyddyn 1761. Yr oedd ei rieni yn ddynion cyfrifol a shyfoethog. Cafodd addysg dda yn moreu ei oes. Wedi gorphen ei amser yn yr ysgolion, bu am dymor yn ysgrifenydd mewn swyddfa cyfreithiwr.