Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond gan fod gogwyddiad ei feddwl at y weinidogaeth, rhoddodd y lle hwnw i fyny, ac acth i'r athrofa i Wrecsam i ddarparu at weinidogaeth y cysegr. Ar orpheniad ei amser yno, derbyniodd alwad oddiwrth ei fameglwys yn Rhosycaerau, ac urddwyd ef yno, fel y nodwyd, yn y flwyddyn 1795. Bu yn llafurus a llwyddianus iawn yn y weinidogaeth yn mysg y Cymru a'r Sacson am ddeng-mlynedd-ar-hugain. Ar un o'i deithiau cafodd ergyd o'r parlys, yr hyn a'i hanalluogodd i bregethu am weddill ei oes. Ei destyn diweddaf yn Rhosycaerau, y Sabboth cyn iddo gael ei barlysio, oedd Deut. xiii. 4. "Ar ol yr Arglwydd eich Duw yr ewch, ac efe a ofnwch, a'i orchymynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch." Bu wedi hyny yn dihoeni am ddwy flynedd. Bu farw yn 64 oed, yn y flwyddyn 1825.

Yr oedd Mr. Meyler o ran ei berson yn hardd a boneddigaidd yr olwg arno. O ran ei feddwl yr oedd yn gryf, yn graff, a threiddgar, a braidd yn anorchfygol mewn dadl. Yr oedd yn gyfaill ffyddlon, ac yn dal yn wastad yn ddidroi o blaid y rhai y barnai eu bod yn cael cam gan fyd neu eglwys. Bu y wybodaeth o'r gyfraith wladol y daethai i feddiant o honi yn y blynyddau a dreuliodd yn swyddfa y cyfreithiwr, o wasanaeth mawr iddo ef a'r cyhoedd yn nhymor ei weinidogaeth. Cafodd amryw achlysuron i ddefnyddio y wybodaeth hono er amddiffyn yr Ymneillduwyr yn wyneb ymosodiadau Eglwyswyr erlidgar arnynt. Mae ei goffadwriaeth yn Rhosycaerau ac Abergwaun, a thrwy sir Benfro yn gyffredinol, yn barchus iawn i'r dydd hwn, a'i rinweddau personol, a'i lafur gweinidogaethol etto ar gof a chadw. Yr oedd ef yn gyfeillgar iawn a Mr. Henry Davies, gweinidog y Bedyddwyr yn Llangloffan, er fod y gwr da hwnw, rai prydiau, yn cymeryd ei arwain gan ei sel enwadol i dderbyn i'w eglwys bersonau fuasai Mr. Meyler wedi gorfod eu diarddel am anfoesoldeb neu derfysg. Yn fynych pan fuasai dyn neu ddynes yn cael eu diarddel o Rhosycaerau un mis, buasent yn cael eu trochi a'u derbyn yn Llangloffan y mis canlynol. Byddai Mr. Davies yn dyfod yn achlysurol i Rhosycaeran i wrandaw Mr. Meyler, pan na fuasai galwad iddo i bregethu ei hun. Digwyddodd ei fod yno un boreu Sabboth pan yr oedd galwad ar Mr. Meyler i ddiarddel rhyw droseddwr. Wrth gyhoeddi y dyn yn ddiarddeledig dywedodd, "Nid wyf fi heddyw yn traddodi y dyn hwn i satan, yn ol y gorchymyn apostolaidd, ond mi a'i traddodaf i Mr. Davies, Llangloffan, canys y mae efe yn sicr o'i dderbyn un o'r dyddiau nesaf.[1]

ABERGWAUN.

Yr oedd Mr. Richards wedi bod yn pregethu llawer yma mewn tai anedd, ond ni wnaed un cynyg at sefydlu achos yma hyd ar ol urddiad Mr. Meyler. Cafodd le at adeiladu capel yn mhen uchaf heol Wallis, gan Capt. Thomas, tad Mrs. Lloyd, Towyn, Meirionydd, yr hwn yn nghyd a'i wraig oeddynt yn aelodau cyfrifol yn Rhosy caerau. Llwyddodd yr achos yma yn raddol, ac ystyrid Rhosycaerau ac Abergwaun yn un eglwys, a chedwid cymundes yn y ddau le bob yn ail fis. Yn y flwyddyn 1806, rhoddwyd galwad i Mr. William Davies, aelod o'r eglwys, i gydlafurio a

  1. Yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o'r ffeithiau uchod i ysgrif gan Mr. Davies, Rhosycaerau, yn y Diwygiwr am 1854, ac i lythyr Mr. Bateman.