Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 3.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Meyler, trwy holl gylch y weinidogaeth, ac urddwyd ef yn nghapel heol y Wallis, Tachwedd 6ed, y flwyddyn hono. Cydlafuriasant yn heddychol a llwyddianus am yn agos i ugain mlynedd, hyd nes y daeth bywyd defnyddiol Mr. Meyler i derfyniad Rhagfyr 25ain, 1825. Cyfyngodd Mr. Davies ar ol hyn ei weinidogaeth i'w gylch Cymreig, gan adael y canghenau Saesonig, yn y rhai y llafuriasai yn hir. Ymwahanodd yr eglwys yn yr adeg yma oddiwrth y fam-eglwys yn Rhosycaerau i fod yn eglwys Annibynol, a chedwid cymundeb yn rheolaidd bob mis yn y ddau le, ond eu bod yn parhau o dan yr un weinidogaeth. Wedi urddo Mr. Bateman yn Chwefror, 1840, i gydlafurio a Mr. Davies, aeth yr achos rhagddo gyda llwyddiant cynyddol. Teimlid fod y capel mewn cwr o'r dref nad oedd yn fanteisiol, a'r ffordd ato yn anghyfleus, heblaw ei fod yn rhy fychan i'r gynnulleidfa. Yn y flwyddyn 1844, prynwyd darn o dir mewn man cyfleus, ac adeiladwyd ar ran o hono gapel helaeth a hardd, a thy cyfleus yn nglyn ag ef, ac y mae y gweddill o'r tir yn lle claddu. Costiodd y cwbl 800p., a thalwyd yr holl ddyled ddydd yr agoriad, yr hyn a gymerodd le Mai 6ed a'r 7fed, 1845. Mae yn ddyledus i ni grybwyll yn y fan yma i'r hen weinidog hybarch Mr. Luke, gynt o Taunton, a'i wraig, y rhai a ddaethant i dreulio prydnawn eu bywyd yn Goodwick, gerllaw Abergwaun, fod o gynorthwy mawr gyda'r addoldy newydd, yr hwn a elwir y Tabernacl. Talasant am y tir, a chyfranasant lawer at yr adeilad. Byddai Mr. Luke yn pregethu yma yn Sacsonaeg bob pythefnos hyd ei ddiwedd, ac y mae efe a Mrs. Luke yn gorwedd yn mynwent y capel. Ar y 5ed o Dachwedd, 1856, bu cyfarfod jubili yr hybarch weinidog, Mr. Davies, ar ben yr haner canfed flwyddyn o'i weinidogaeth. Cynrychiolid y rhanau Cymreig a Seisonig o'r sir yn y cyfarfod, a chyflwynwyd anrhegion oddiwrthynt i Mr. Davies, yn gystal ag oddiwrth bobl ei ofal yn ei gylch gartrefol. Yr oedd y cyfarfod drwyddo yn un nodedig o effeithiol. Cyhoeddwyd adroddiad helaeth yn y Diwygiur am Rhagfyr y flwyddyn hono. Parhaodd Mr. Davies i ofalu am yr eglwysi hyd y Sabboth olaf o'r flwyddyn 1863, pryd y teimlodd ei fod dan angenrheidrwydd i roddi i fyny ei ofal gweinidogaethol. Teimlai yr eglwysi y bu yn eu gwasanaethu cyhyd dristwch mawr oblegid hyny, er eu bod yn gweled nas gallasai barhau yn hwy yn ei swydd. Rhoddodd Mr. Bateman oblegid hyny ofal Abergwaun i fyny, gan nas gallasai wasanaethu yr holl gylch, a chyfyngodd ei lafur i Rhosycaerau a'r canghenau.

Yn y flwyddyn 1864, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. Lewis Jones, yr hwn a fuasai yn weinidog yr eglwys Gymreig yn Nghroesoswallt, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Awst 2il a'r 3ydd, y flwyddyn hono. Bu Mr. Jones yma am yn agos i saith mlynedd, ond nid llwyddianus iawn a fu yn ei weinidogaeth. Darfu ei gysylltiad a'r eglwys yma, ac aeth i'r Eglwys Sefydledig.

Cyn diwedd y flwyddyn 1871, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mehefin 25ain, 1872. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Davies, Glandwr ; holwyd y gofyniadau gan Mr. I. Williams, Trelech; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Lewis, Brynberian; pregethwyd i'r gweinidog, gan ei athraw y Proff. Morris, o Aberhonddu; ac i'r eglwys gan Mr. S. Evans, Hebron. Mae yr achos yma wedi adnewyddu yn fawr, a rhai degau wedi eu derbyn yn ystod y misoedd diweddaf, fel y mae golwg dra addawol ar yr eglwys ar gychwyniad gweinidogaeth Mr. Davies.