Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae llawer o son am ryw ddyddiau da, ryw ddyddiau dysgedig a fu, a bod y dyddiau o'r blaen yn llawer gwell na'r dyddiau hyn. Gellir meddwl ar rai, fod pob daioni, pob dysg, a phob rhinwedd wedi ei gladdu o'r golwg, neu o'r hyn lleiaf y cleddir hwynt gyda hwy. Ein hamcan yn y fan hon fydd edrych a ydyw y drych feddwl neu y dybiaeth uchod yn wirionedd, ai nad yw. Gan fod ein testyn wedi ei gyfyngu i Blwyfydd Llanllechid a Llandegai, nyni a edrychwn am funud beth oedd ansawdd llenyddiaeth ac addysg yn y plwyfydd hyn cyn sefydliad y cyfundebau ymneillduol ynddynt. Mae yn ymddangos fod yr Ymneillduwyr wedi sefydlu eu hunain, neu ddechreu pregethu, yn y plwyfydd hyn er's yn agos i gan mlynedd. Yr ydym yn cael mai gyda'r Bedyddwyr y pregethwyd gyntaf yma, a hynny yn Cilfodan. Gyda golwg ar lenyddiaeth y ddau blwyf cyn hyn, yr ydym yn ei gael yn ychydig. Mae yn ddiameu mai y dywediad mwyaf priodol amdanynt fyddai, mai "un o leoedd tywyll y ddaear" oeddent: nid oeddent ond caddug o dywyllwch, ac hollol anfoesol. Yr oedd yr hen gampau yn eu grym ar y pryd, ac nid oedd na pherson na chlochydd (mae yn ddrwg genym orfod dyweyd) yn ceisio eu gwanhau. Yr oedd y ffeiriau a'r marchnadoedd, y gwylmabsantau a'r priodasau, ac yn fynych y claddedigaethau, yn frawychus oherwydd y meddwdod a'r ymladdfeydd gwaedlyd a fyddent yn dygwydd ynddynt. Gallem sylwi hefyd fel yr oedd y nosweithiau i chwareu, ymladd ceiliogod, curo bandi, & , mewn bri mawr yn y dyddiau hyny .

Gallem chwanegu, fod y campau llygredig a'r arferion pechadurus hyn mewn bri mawr am amser maith wedi i'r Ymneillduwyr ddechreu pregethu yn y ddau blwyf. Yr ydym yn cael na fu neb yn y plwyfydd hyn