Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fwy diwyd ac yn fwy ymdrechgar i gael y campau a'r chwareuyddiaethau llygredig hyn i lawr, na'r diweddar William Jones, o Abercaseg; Richard Jones, ei frawd; T. W. Hughes, o Dai’nycoed; O. Pritchard, Braichtalog; G. Humphrey, Lonisaf, &c., &c. Buont mor ymroddgar a diwyd, fel y cawsant hwy i lawr bron yn hollol. Mae yn amheus a wnaeth un dyn gymaint at foesoli ei gymydogaeth a'r hen gristion llafurus o Abercaseg.

Er yr holl dywyllwch oedd yn gordoi ein plwyfydd y pryd hwnw, eto yr oedd yma lawer yn dwyn mawr sel tros hen grefydd eu tadau. Yr oeddent yn ofalus am fedyddio eu plant yn yr Eglwys, eu conffyrmio wedi hyny, a byddai bron bawb yn myned am eu cymun ar y suliau a'r gwyliau penodedig. Ond wedi'r cwbl, yr oeddent yn byw y bywyd mwyaf llygredig ac annuwiol; ac os caent ŵr eglwysig i weinyddu cymun iddynt ar eu claf wely, dyna bob peth yn iawn. Dyma, ar y cyfan,oedd agwedd gymdeithasol a llenyddol trigolion Llanllechid a Llandegai cyn sefydliad Ymneillduaeth yn eu plith .

Yn yr hen oesau, trwy Gymru yn gyffredinol, gystal ag yn y ddau blwyf uchod, yr unig lenorion, gydag ychydig eithriadau, oeddent y Beirdd, neu yn hytrach y Prydyddion, a'r Offeiriaid. Er fod llenyddiaeth yn isel yn Llanllechid a Llandegai yn y canrifoedd diweddaf, eto yr ydym yn cael na fuont er's canrifoedd heb beth llenyddiaeth ynddynt. Nis gallwn lai na barnu mai arwydd o lenyddiaeth, ac o feddyliau diwylliedig, ydyw yr hen dai ardderchog sydd yn ein plwyfydd, yn enwedig felly Llanllechid, sef Tyntwr, Coetmor, Tanybwlch, Corbri, Talybont—uchaf, Corchwillan, Plas Hofa, Cae Mawr, &c. Mae yn ddiameu fod gwaith y Parch . E.