Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evans ( Ieuan Brydydd Hir) yn cyflwyno ei weithiau i ofal teulu Coetmor yn brawf cryf fod llenorion da yn byw y pryd hwnw yn Coetmor. Yr ydym yn cael hefyd fod yn Llanllechid amryw Offeiriaid dysgedig wedi codi, megys y Parch. Roger Williams, Periglor y plwyf, yr hwn a fagwyd yn Corchwillan. Bu farw yn y flwyddyn 1693. Hefyd, Syr Rhys Parry, yr hwn a gladdwyd 1708; a Syr John Ellis, yr hwn a anwyd yn Dolhelyg, ger Talybont. Bu y ddau yn Guradiaid yn Llanllechid tua dau gan mlynedd yn ol. Ymddengy's oddiwrth yr hanes a gawn am Syr Rhys Parry ei fod yn ddyn yn meddu ar gryn radd o wybodaeth a doniau, pan nad ydoedd ond gweithiwr cyffredin. Dywedir i'r Parch. Gruffydd Williams, Esgob Ossory, pan ar ffo o'r Iwerddon, ei glywed yn cadw Gwylnos yn Plas Hofa, Llanllechid, ac iddo gael ei foddhau ynddo i'r fath raddau, fel yr ordeiniodd ef yn Gurad yn Llanllechid. Mae yn ymddangos iddo fod yn dra llwyddianus gyda'r achos crefyddol yn y plwyf tra y bu ef yn gwasanaethu ynddo. Syr John Ellis, o Ddolhelyg, hefyd, oedd lenor enwog iawn. Y pryd hwn yr oeddys yn arfer galw pob offeiriad wrth y teitl o "Syr," a hyny yn lle y "Parch." y dyddiau hyn. Yn sir Feirionydd, mae yr hen bobl yn arfer galw yr offeiriaid hyd heddyw wrth y teitl o "Yr" (talfyriad o'r gair Syr); megys, "Yr Jones," "Yr Williams," "Yr Ellis," &c. Ychydig gyda chan mlynedd yn ol, yr oedd gŵr o'r enw William Abraham yn byw yn Cil-reflys. Yr oedd yn fardd lled dda, yn ysgolhaig gwych, yn arddwr rhagorol, ac yn llysieuwr craffus. Efe a ffurfiodd ardd fawr Brynderwen. Gallem enwi gŵr o'r enw Owen Morris, o Dyddyn-du, Llan llechid, hefyd. Yr oedd yntau yn byw tua chwech ugain mlynedd yn ol. Dywedir ei fod yn llenor da, yn hynafiaethydd