Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

campus, ac yn arddwr o'r dosbarth cyntaf. Cawn ei fod yn cydoesi â Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn), ac yn gyfaill mawr iddo. Gallem chwanegu, fod Owen Morris yn Sais da, ac yn Lladinwr rhagorol. Ganwyd iddo ddau fab yn Tyddyn-du. Dygodd hwy i fyny yn ysgolheigion rhagorol—Richard yn arddwr campus. Bu gyda'r Duke of Craffton am tua 60 mlynedd. Casglodd tua £35,000. Bu farw yn y flwyddyn 1864, yn 82 oed. Dygwyd Owen i fyny yn Ddoctor, yr hwn a fu yn y fyddin yn India'r Dwyrain, yn gwas anaethu fel Doctor am tua 46 mlynedd; a bu farw yn y flwyddyn 1858, yn 73 mlwydd oed.

Er mai ychydig o lenyddiaeth oedd yn bodoli yn mysg y dosbarth cyffredin cyn dechreuad y ganrif bresenol, eto ni fu y ddau blwyf er's oesau heb ychydig o lenyddiaeth yn bodoli ynddynt. Mae yn ymddangos fod trigolion Llandegai gryn lawer ar ol trigolion Llanllechid yn yr oesau diweddaf o ran eu llenyddiaeth. Ychydig iawn sydd genym o hanes am lenorion yn mhlwyf Llandegai cyn y ganrif bresenol. Mae yn wir fod amryw o deulu y Penrhyn yn wir ddysgedig Dywed Gruffydd Williams (Gutyn Peris) am y diweddar Richard Pennant, Arglwydd Penrhyn, fel y canlyn: "Yr oedd gan Arglwydd Penrhyn wybodaeth helaeth iawn mewn Hynafiaeth, Seryddiaeth, Difynyddiaeth, Anianyddiaeth, Meddyginiaeth, Amaethyddiaeth, a Morwriaeth." Dywedir fod gwr o'r enw John Rogers yn byw yn Pant-y-ffrwdlas, ger Bethesda, yr hwn oedd fardd tra enwog yn amser Cromwel, ac iddo ganu ar y pryd yn erbyn teulu y Penrhyn, a Wig Aber, am iddynt fradychu Syr John Owen, o'r Glynenau, i ddwylaw y Cromweliaid,