Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn mrwydr y Dalar Hir, ger Aber. A dyma un o'r penillion a ganodd ar y pryd:

" Melldith Duw a fyddo'n dylyn
Teulu'r Wig a theulu'r Penrhyn,
Am iddynt hwy, yn nhraeth y Lafan,
Wir fradychu Syr John Owan."

Tua chan mlynedd yn ol, yr oedd hen fardd doniol arall yn byw yn Gwaen-y-gwiail o'r enw Abraham Williams. Adnabyddid ef y pryd hwnw wrth yr enw, "Abraham y Cwmglas, Llanberis." Brodor o Lanberis ydoedd Abraham. Yn y flwyddyn 1793, ymfudodd i'r America. Dywed Gutyn Peris amdano fel hyn,

"Abraham dinam, fardd doniol—galwyd
Mab Gwilym rinweddol."

Dyma dad barddonol Gutyn Peris, oblegid dywed,

"Och ! briddaw f'athraw i feithrin—y gerdd,
A'i gwir drefn gysefin;
Dyallwr iaith, a dull rhin,
Mawrddysg Llywarch a Myrddin."

Yr ydym yn cael fod Abraham Williams (Bardd Eryri) yn ŵr tra dysgedig, ac yn gyfarwydd iawn mewn Rheolau Barddoniaeth. Siarada Gutyn Peris yn uchel iawn amdano hefyd mewn Marwnad iddo.