Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II

ANSAWDD LLENYDDIAETH WEDI SEFYDLIAD Y CYFUNDEBAU YMNEILLDUOL

MAE yn debyg y gallem gyda phriodoldeb mawr ddyweyd, mai llenyddiaeth yr Ysgol Sabbothol ydyn llenyddiaeth Llanllechid a Llandegai. Mae yn ddiameu y gallem ddyweyd mai dedwydd y dydd, a gwynfydedig yr awr, y sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol. Hi ydyw prif athrofa'r bobl. Addysgwyd ac addysgir ynddi feibion lawer i wir ddefnyddioldeb yn y byd hwn, ac i ogoniant a dedwyddwch yn y byd a ddaw. Mae yn ffaith y bydd enwau Robert Raikes, a Thomas Charles, o'r Bala, yn berarogi i oesoedd dyfodol, ac yn ymffrost gwlad, a gogoniant cenedl, tra y pery dyddiau amser.

Er ein bod fel hyn yn tadogi llenyddiaeth Llanllechid a Llandegai i addysg yr Ysgol Sabbothol ar y cyfan, eto mae yn rhaid i ni gydnabod fod yma foddion priodol at ddiwyllio y trigolion cyn sefydliad yr Ysgol Sabbothol yn un o'r ddau blwyf. Yr ydym yn cyfeirio at yr ysgolion dyddiol. Mae yn ymddangos fod ysgol ddyddiol yn Eglwys Llanllechid er's tua 90 mlynedd. Y gŵr a fu yn cynnal yr ysgol gyntaf yn y lle hwn ydoedd Richard Jones, Llanllechid. Yr oedd R. Jones yn fardd da. Mae llawer o'i waith ar gael y dyddiau hyn. Yr oedd hefyd yn Sais da, ac yn ysgrifennydd gwych. Bu ei ysgol yn foddion arbenig i gynyrchu amryw o ysgolheigion