Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagorol yn y plwyf. Bu farw yn y flwyddyn 1831, yn 66 mlwydd oed. Ar ôl y gŵr hwn, bu Owen Jones, Machine, (gynt o'r Winllan, Llanllechid,) cadw ysgol yn yr un lle; eithr ni fu ef ond am ychydig amser-tua thair blynedd. Ganwyd Owen Jones yn y Winllan, Llanllechid, yn y flwyddyn 1777, a bu farw yn y flwyddyn 1844, yn 67 mlwydd oed. Dylynwyd Owen Jones gan ŵr o'r enw David Wilson, Nid oedd ef yn enedigol o Lanllechid, eto bu colled fawr ar ei ôl. Yr oedd yn Gymreigydd rhagorol, yn ddaearegwr campus, yn seryddwr da, ac yn deall morwriaeth cyn belled bron a'r pennaf y dyddiau hynny; ac ar y cyfrif hwnnw cafodd le yn y Custom-house, yn Portynlleyn. Bu y gŵr hwn yn wir lafurus a ffyddlawn yn addysgu plant y plwyf; ac nid yn unig hynny, ond yn sefydliad yr Ysgol Sabbothol yn y plwyf. Mae yn ymddangos mai yn y flwyddyn 1792 y sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn mhlwyf Llanllechid a Llandegai; ac fe ddywedir mai mewn capel bychan yn Caegwigin y bu hynny. Yr un a ddylynodd D. Wilson oedd Morris Griffith, brodor o Beddgelert. Yr oedd yntau yn ysgolhaig da, ac yn fardd gweddol. Bu yn cadw ysgol yn Eglwys Llanllechid am tua 30 o flynyddau. Bu farw yn y flwyddyn 1843, yn 82 mlwydd oed.

Mae yn ' ffaith i'r ysgol nos fod yn foddion i goethi a diwyllio llawer ar ieuenctyd y ddau blwyf—Llanllechid mewn modd enwedig. Mae yn ddiameu, er hyny, fod y wedd sydd i'w chanfod ar lenyddiaeth y ddau blwyf hyn i'w briodoli i Ymneillduaeth, ac i sefydliad yr Ysgol Sabbothol ynddynt.

Tua'r flwyddyn 1820, sefydlodd Griffith Williams (Gutyn Peris) ysgol nos i addysgu Gramadeg yn nghapel y Carneddi, ac mae yn debyg mai dyma'r ysgogiad