Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf at addysgu y gangen hon o lenyddiaeth yn y plwyf, hynny ydyw, fel sefydliad i addysgu yr iaith. Mae ôl yr ysgol honno i'w ganfod yn y plwyf hyd heddyw. Yn y flwyddyn 1821, daeth Robert Williams, Cae Aseth, Llanbedr, ger Conwy, i'r plwyf, yn ŵr ieuanc rhinweddol a defnyddiol iawn. Gan ei fod yn wir fedr us yn y gelfyddyd o Gerddoriaeth, dechreuodd ar y gwaith o addysgu y bobl ieuainc yn y gelfyddyd ardderchog honno. Sefydlodd Gymdeithas Ganu yn nghapel y Carneddi, i addysgu y gelfyddyd, ac hefyd i addysgu tonau, ac anthemau cysegredig; a thrwy ei fawr lafur, ei ddiwydrwydd, a'i ffyddlondeb, efe a fagodd yn y ddau blwyf lawer o ddynion a fu o les a bendith anhraethol i achos crefydd yn y gymydogaeth. Dichon y byddai yn ddyddorol gan lawer glywed enwau rhai o'i brif ddysgyblion ar y pryd; gallem enwi Robert Moses, Parc; John Parry, Carneddi; Richard, a John Parry, Llidiart y gwenyn; Griffith Rowlands (Asaph Bethesda); John Davies, Ffynon Bach; John Davies, Tyn twr; John Williams, Ysw. (Gorfoniawg o Arfon), Talybont; Hugh Jones, Llandegai; David Morris, Cilfodan; John Evans, Bontuchaf; &c. Gallem ddyweyd i amryw o'r gwŷr hyn gyrraedd cryn enwogrwydd fel cerddorion, a llenorion cyffredinol. Yn ysbaid y saith mlynedd y bu ef byw yn yr ardal, fe gynyddodd y canu yn anghyffredin. Diffygiol iawn oedd y canu yn y ddau blwyf cyn dyfodiad R. Williams i breswylio iddynt. Mae yn debyg na wnaeth neb yn Llanllechid a Llandegai yn yr oes hon gymaint at goethi, egwyddori, a diwyllio meddyliau y trigolion, a hyny mewn Cerddoriaeth, Duwinyddiaeth, a Gramadeg, ag a wnaeth R. Will iams, Cae Aseth. Yr ydym yn llwyr gredu y cydnabydda pawb hyn yn rhwydd. Byddai yn cynnal