Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fardd enwog, ei feddyliau yn sylweddol ac yn wreiddiol. Yr oedd ei iaith yn dda, a'i gynghaneddion bob amser yn rheolaidd, ac yn fynych yn dlws ac yn gryfion. Nid oedd nemawr fardd o'i oes a ddylynai ei destyn yn well nag ef, yn ol ei olygiadau ef arno; ond nid oedd ei ddarfelydd yn gryf, na'i olygiadau yn eang." Bu farw Medi 18fed, 1838, yn 70 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llandegai, lle y cyfodwyd cof-golofn ddillynaidd ar ei orweddfa.

W. WILLIAMS (Gwilym Peris), CARNEDDI.

Ganwyd G. Peris yn Tyn-yr-Algarth, Llanberis, yn y flwyddyn 1719. Ychydig o fanteision addysg a gafodd erioed, ddim pellach na thrwy ei lafur a'i ddiwydrwydd ei hun. Daeth o Lanberis i blwyf Llandegai pan tuag 20 oed. Ystyrid G. Peris yn uchel yn mysg beirdd ei oes. Yr oedd ei iaith yn dda ac yn gref, ac fe'i hystyrid yn gynghaneddwr campus. Cyhoeddodd lyfr barddonol gwerth 1s. 6c. o'r enw "Awengerdd Peris," yr hwn sydd yn cynwys Awdlau, Cywyddau, Englynion, Cerddi, Carolau, &c. Daeth ail argraffiad ohono tua'r flwyddyn 1843. Dywed G. Caledfryn amdano fel hyn, "Gwilym Peris ydoedd fardd gwreiddiol o ran ei syniadau, ei iaith yn gref, ond yn lled fynych yn dywyll; a'i gynghanedd wedi ei hastudio yn fanwl." Claddwyd ef yn mynwent Llanllechid, yn y flwyddyn 1847, yn 78 mlwydd oed.

HUGH DERFEL HUGHES, PENDINAS

Ganwyd Mr. Hughes yn Clettwr Llandderfel, yn y flwyddyn 1816. Daeth i drigianu i Llanllechid yn y flwyddyn 1846. Ystyrir Derfel yn fardd da, a llawer o dlysni yn ei waith. Mae wedi cyfansoddi cryn lawer mewn barddoniaeth. Cyhoeddodd ddau lyfr barddonol