Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu farw yn Awst 1788, yn 58 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Lledrod, yn swydd Aberteifi.

GRIFFITH WILLIAMS (Gutyn Peris)

Ganwyd Gutyn Peris Chwefror 2, 1769, yn y lle a elwir Hafod-oleu, yn mlaen plwyf Llanbeblig. Ei dad oedd W. Williams, ail fab Mr. Edward Williams, o'r Llwyncelyn, yn mhlwyf Llanberis. Mae yn ymddangos na chafodd ond un flwyddyn o addysg ddyddiol pan yn blentyn. Wedi iddo dyfu yn 17 neu 18 oed, ystyriai ei hun yn cael bychan o arian, a chlywodd eu bod yn cymeryd pobl i agor chwarel y Cae: daeth yno, a chafodd le i weithio am swllt yn y dydd. Cafodd le i letya gyda gŵr o'r enw Abraham Williams, amaethwr yn Gwaen-y-gwiail, yr hwn hefyd oedd yn fardd lled dda, yn deall y pedwar mesur ar ugain yn dra manwl. Y gŵr hwn a fu yr athraw cyntaf i Dafydd Ddu Eryri. Tra bu Gutyn Peris yn lletya gydag ef, dysgodd reolau barddoniaeth iddo yntau.

Yr ydym yn deall fod G. Peris wedi cyfansoddi llawer mewn rhyddiaith a barddoniaeth. Ni chyhoeddodd ond un llyfr, a hwnw yn llyfr barddonol o'r enw "Ffrwyth Awen;" ond gadawodd ar ei ol ddefnyddiau dau lyfr arall mewn ysgrifen yn barod i'w hargraffu. Ystyrir mai prif orchestion barddonol G. Peris ydynt, "Awdl Coffadwriaeth Goronwy Owen," am yr hon y derbyniodd dlws arian. Hefyd ei awdl ar "Flwyddyn y Jubili," am yr hon y derbyniodd gwpan arian. Hefyd ei "Goffadwriaeth i'r Frenines Charlotte." "Gwledd Belsassar." "Drylliad y Rothsay Castle." Barnwyd ef yn ail oreu ar y testyn o 19 o ymgeiswyr, am yr hon y derbyniodd £10, a thlws gwerth £5. Cyn terfynu hyn o sylwadau, ni a ddyfynwn farn Caledfryn ar Gutyn Peris. Dywed ef fel hyn:— " Yr oedd Gutyn Peris