Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gadeiriol, yr hon a ymddangosodd yn y Traethodydd am Gorphenhaf 1866, ac am yr hon y dywed "Baner ac Amserau Cymru," yn ei hadolygiad ar y rhifyn hwnw. "Y peth nesaf yn y rhifyn ydyw "Awdl ar Oen y Pasc," gan Gaerwenydd, yr hon a enillodd i'w hawdwr yr anrhydedd o fod yn "Fardd Cadeiriol," yn Eisteddfod Cymreigyddion Bethesda, Ddydd Gwyl Dewi, 1866; ac yn wir, rhaid i ni gyfaddef, er nad ydym yn orhoff o'r gynghanedd, nac yn meddu syniadau uchel iawn am Awdlau Cadeiriol yn gyffredin, fod yr awdl hon yn meddu graddau helaeth o deilyngdod awenyddol. Mae yn ddernyn tlws, coethedig, a gwir farddonol; ac nid ydym yn tybied fod yr amser yn mhell pan y gwelir Gaerwenydd yn eistedd fel buddug wr yn Nghadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn cael ei restru yn mysg ' prif feirdd ' ein gwlad."

JOHN DAVIES, PENYBENGLOG

Gŵr genedigol o Drefriw oedd J. Davies. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1799. Derbyniodd ei addysg foreuol gyda Mr. Davies, yn Ysgol Râd Llanrwst; ac hefyd gan y Parch. W. Jones, Nantglyn, yn Nghapel Mawr Llan rwst. Pan tua 22ain oed, daeth i fyw i Blaen -y -nant, Llandegai; a thua'r flwyddyn 1830, symudodd i fyw i Benybenglog, lle y treuliodd weddill ei oes.. Bu farw yn 1866, yn 67 mlwydd oed

Cydnabyddir J. Davies yn llenor coeth. Yr oedd yn Gymreigydd da, yn fardd bywiog, yn ddaearegwr rhagorol, ac yn Hynafiaethydd manwl. Cyfansoddodd lawer mewn barddoniaeth. Fe ymddangosodd llawer o'i waith yn y Cyhoeddiadau Cymreig. Cyhoeddodd un llyfr barddonol o'r enw "Blaenffrwyth Awen." Ysgrifenodd lyfr o'r enw, "Taith o Bethesda i Gapel Curig," yr hwn