Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn cynwys daeareg y lle, yn nghyda hanes a dysgrifiad o'r amrywiaeth rhedyn sydd i'w cael o Bethesda i Gapel Curig.

PENNOD III.
Y CERDDORION

GRIFFITH ROWLANDS (Asaph, Bethesda)

MAB ydyw " Asaph " i'rdiweddar gerddor a bardd Mr. Rowland Griffiths, Bethesda. Ganwyd "Asaph" yn Blaen y Cae, plwyf Llandwrog, yn y flwyddyn 1807. Daeth i fyw i Bethesda gyda'i dad pan tua 15 oed. Yr oedd yn llawn awydd at ganu pan yn fachgen tra ieuanc; ac yr ydym yn cael fod ei dad a'i daid yr un fath o'i flaen. Byddai ei dad a'i gyd-gymydogion yn ymgasglu at eu gilydd y nos i ymryson canu hen dônau Cymreig, a "phawb a'i benill yn ei gwrs, heb son am bwrs y cybydd." Yn mhen ychydig amser wedi d’od i fyw i Bethesda, aeth "Asaph" at yr anfarwol Robert Williams, Cae Aseth, i Hen Gapel yr Achub, am wers gerddorol; a dyma y wers gyntaf a gafodd erioed. Bu gyda R. Williams amryw weithiau ar ol hyn, fel y mae yn briodol ei alw yn dad cerddorol i Asaph. Cydnabyddir ef erbyn hyn yn deilwng i'w restru yn mysg prif gerddorion ein gwlad. Cawn ei fod wedi cyfan soddi cryn lawer. Cyfansoddodd o 15 i 20 o Anthemau, yn nghyda lluaws o donau, ac alawon, &c. Bu yn fuddugol ac yn ail yn Eisteddfodau Cerddorol Bethesda, 1851, 1852, a 1853. Enillodd у brif wobr yn Eisteddfod Aberdare, sef, pum gini, yn y flwyddyn 1859. Nid yn unig mae Asaph wedi bod yn ffyddlawn fel cerddor, ond mae wedi bod yn dra ffyddlawn