Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel arweinydd y canu yn Bethesda er's 38 o flynyddau. Yn y flwyddyn 1857, cafodd ei alw i fod yn ddiacon yn yr eglwys Annibynol yn Bethesda.

RICHARD ROBERTS, CARNEDDI

Ganwyd R. R. yn Tyddyn Ellen, Llanrug, yn y fl. 1808. Ychydig o hyfforddiant a gafodd erioed mewn cerddoriaeth; ond trwy ei lafur a'i ddyfalbarhad, daeth yn lled gyfarwydd yn elfenau y gelfyddyd. Cydnabyddir R. Roberts yn gerddor lled dda. Cyfan soddodd lawer o DÔnau, Alawon, &c. Daeth i Bethesda i fyw pan yn bur ieuanc, a sefydlodd ei hun yma. Bu yn arweinydd y canu yn y Carneddi am lawer o flyn yddoedd, ac mae yn ddiameu mai fel arweinydd canu y mae wedi enwogi ei hun yn benaf.

PENNOD IV
CYMERIADAU AMRYWIAETHOL

JOHN W. THOMAS (Arfonwyson)

ARFONWYSON oedd fab i William Thomas yr Allt, ger Pentir, plwyf Bangor. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1805, a bu farw yn Mawrth 12fed, 1840, yn 35 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent St. Alphage, yn Greenwich. Pan yn saith oed, cafodd fyned i'r ysgol at Mr. William Thomas, i Bentir. Bu yn yr ysgol hono am dair blynedd. Gan fod amgylchiadau ei dad yn lled isel ar y pryd, bu gorfod iddo gymeryd John o'r ysgol pan yn ddeg oed, er mwyn cael ychydig wasanaeth ganddo. Pan yn bedair -ar-ddeg oed, cafodd le i enill pum swllt yn yr wythnos o gyflog. Yn fuan cafodd ychydig o godiad yn ei gyflog. Byddai yn