Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

defnyddio ei holl oriau segur y pryd hwn i ymarfer â Rhifyddiaeth. Wrth fod yn ddiwyd fel hyn, dysgodd ddarllen, ac ysgrifenu, a rhifo, yn weddol dda, erbyn ei fod yn 17 mlwydd oed. Ar ol hyn aeth yn lyfr werthwr i un o'r enw Joseph Jones o Beaumaris. Er mai gwaith lled annymunol fuasai hyn gan ambell ddyn, yr oedd wrth fodd calon Arfonwyson, a hyny ynbenaf am fod y cyfleusdra yn fanteisiol iawn iddo gael llyfrau iddo ei hun. Mae yn ymddangos nad oedd ganddo nemawr o lyfrau cyn hyn. Tra y bu yn y lle hwn, ei brif bwnc o hyd fyddai Rhifyddiaeth. Pan yn 18 oed, aeth i'r ysgol i Gaergybi at Mr. Robert Roberts, awdwr y "DAEARYDDIAETH". Yn mhen tri mis dychwelodd yn ol o Gaergybi wedi dysgu cymaint ag a allai Mr. Roberts iddo, yna dechreuodd gadw ysgol yn Tre’rgarth, Llandegai. O hyny allan yr ydym yn ei ystyried yn deilwng o'i restru yn mhlith " Enwogion Llandegai." Pan yn y lle hwn, yn ei oriau hamddenol, dechreuodd ysgrifenu ei "ELFENAU RHIFYDDIAETH." Pan yn 21 mlwydd oed, efe a briododd, ac a aeth i fyw i Fangor. Symudodd yn fuan o Fangor i gadw ysgol yn Ffestiniog, o dan nawdd y Parch. James H. Cotton, diweddar Ddeon Bangor. Collodd ei le yn fuan yn y lle hwn, oherwydd iddo ysgrifenu rhywbeth yn erbyn rhyw Offeiriad. Dychwelodd yn ol i Fangor. Y pryd hwn cyhoeddodd y "Geiriadur," a'r "Athraw." Yn y cyfamser dechreuodd gadw ysgol yn Nglanyrafon, Bangor. Ni bu yn hir yn Mangor, ond symudodd i Lôn -isaf, Llandegai, lle yr oedd ei rieni yn byw er's blynyddau. O'r Lôn -isaf aeth i Lundain, lle y cafodd dderbyniad croesawgar gan y Cymreigyddion. Bu yn Llundain gryn amser cyn cael lle; ond cafodd le yn ysgrifenydd i foneddwr o'r enw Mr. Cobbett, yr aelod seneddol dros Oldham.