Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tua'r amser yma y cyfansoddodd y llyfr rhagorol hwnw, "TRYSORFA'R ATHRAWON." O'r lle hwn, cafodd le i fyned i'r Arsyllfa Freninol yn Greenwich, lle yr aeth rhagddo yn dra llwyddianus. Yn yr Arsyllfa hon ysgrifenodd amryw Almanaciau tra dyddorol. Pan yn y lle hwn hefyd y bu y dadleuon brwd rhyngddo a Dr. Morgan a D. R. Stephen. Wedi yr holl lafur hwn, bu farw yn ddyn ieuanc, dim ond 35 mlwydd oed.

Gyda golwg ar gymeriad llenyddol a galluoedd meddwl Arfonwyson, yr ydym yn teimlo ein hunain yn hollol analluog ac annghymhwys i draethu ein meddwl arnynt. Cydnabyddir gan bawb fod Arfonwyson yn un o brif lenorion cenedl y Cymru, yn enwedigol felly fel ieithyddwr a rhifyddwr. Rhestrir ef yn uchel fel bardd, ac yn neillduol fel beirniad. Mae yn debyg mai fel rhifyddwr yr enillodd ef ei enwogrwydd yn benaf; er y cydnabyddir ef yn fardd da, yn ieithydd rhagorol, ac yn seryddwr galluog. Nis gallwn derfynu hyn o sylwadau heb ddyfynu ychydig linellau o'i gofiant galluog gan Huw Tegai, yr hwn a ymddangosodd yn y "SEREN GOMER" am y flwyddyn 1849. Dywed Tegai amdano fel DYN PENDERFYNOL EI FEDDWL,—"Gwron ydoedd na throai yn ol er neb. I hyn yn benaf yr ydym i briodoli ei lwyddiant dihefelydd yn gallu casglu y fath gnydau oddiar faesydd toreithiog hanesyddiaeth. Od oes rhyw efrydydd ieuanc yn meddwl dylyn brisg traed Arfonwyson, mae yn rhaid iddo benderfynu cychwyn fel y cychwynodd ef, a phenderfynu myned yn mlaen ar ol cychwyn fel yr aeth ef. Ond pa fodd i ddechreu (gofyna rhywun) ffurfio y fath benderfyniad? Ateb, Fel hyn: -Mae yn rhaid bod yn dra hunan hyderus. Felly yn union yr oedd Arfonwyson. Credai ef nad oedd dyn wedi ei eni erioed rhagorach nag ef ei