Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun, ac o ganlyniad, nad oedd un dyn wedi dysgu dim nad allasai yntau ei ddysgu. Heb fod felly, nid aethai byth i'r man yr aeth; ac nid â neb byth ar ei ol ef, heb fod fel yntau. Un Arfonwyson a gafodd Cymru eto: ond gall gael cant drwy ei gymeryd ef yn gynllun i weithredu." Amdano fel GWLADGARWR dywed Tegai, "Yr oedd gwres ei wladgarwch yn nodwedd mor hynod yn ei gymeriad a nerth ei dalent. Gallem ddyfynu llawer iawn o'i lythyrau yn mhellach, i brofi fod Arfonwyson yn aelod byw yn Nghymdeithas y Cymreigyddion Un a "garai lwydd gwŷr ei wlad " mewn gwirionedd ydoedd. Ni allai gwychder Llundain, nac anrhydedd yr Arsyllfa, beri iddo ef annghofio ei hen gyfeillion llwydaidd Cymreig. Pan ddygwyddai iddo gael cyfle i anfon llythyrau at ei gyfeillion i Gymru yn ddigost, eisteddai i ysgrifenu o 20 i 50 yn y fan, a mawr oedd ei lawenydd pan y daeth y llythyrdoll Ceiniog, er na chafodd ond ychydig iawr o'i fudd. Dyma ychydig o lawer a allasem nodi o engreifftiau o wladgarwch a chyfeillgarwch Arfonwyson." Fel BARDD, dywed amdano ei "fod yn deall rheolau Barddoniaeth rydd a chaeth yn fanwl iawn; ond am Farddoniaeth ei hun, mae yn amheus genym a ddeallodd erioed beth ydoedd: o leiaf nid oedd yr un farn ar prif feirniaid barddonol. Fel cyfansoddwr barddoniaeth, gellir ystyried Arfon wyson yn gryno a synwyrol, ond yn mhell o fod yn wir farddonol." Fel IEITHYDD dywed amdano, " Gall esid meddwl, wrth ei weled a'i glywed yn trafod amryw o'r rhai a alwent eu hunain yn ysgolheigion, ei fod yn un o'r ieithyddion goreu yn y byd. Gwyddom am amryw amgylchiadau, heblaw yr helynt gyda Dr. Mor gan, yn profi hyny. Nis gwyddom pa fath Seisnigydd ydoedd. Clywsom rai beirniaid da yn dyweyd ei fod yn