Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deall y Seisoneg yn dda, ac yn ei chyfansoddi yn dda, a'i pharabju yn ddrwg: ond fel Cymreigydd, nid oes arnom ddim arswyd wrth ei gyfrif yn ORAF o'i holl gydwladwyr, a chymeryd pob peth gyda'u gilydd. Deallai ef elfenau a chyfansoddiad yr iaith i'r manyldeb eithaf, ac ysgrifenai hi mor ddestlus, fel nas gellid ond yn anfynych wella dim yn ei frawddegau. Nid ydym yn

meddwl fod yr un ysgrifenydd Cymreig a ddeil gystadl euaeth âg ef yn hyn. Amdano fel GOLYGYDD CYHOEDDIAD dywed Tegai, "Dichon y dylasem wneyd rhyw sylw o Arfonwyson yn ei gymeriad Golygyddawl, pan yr oedd y "TYWYSOG " dan ei ofal. Ni chrybwyllwn yn awr ond yn unig fod ei olygiadau gwladol a chrefyddol, fel y gwelir yn y cyhoeddiad dan sylw, yn dra rhyddfrydig. Mae ei gyfansoddiadau ef ei hun oll yn deilwng ohono ei hun yn y misolyn hwn; ond gwall mwyaf y cyhoeddiad oedd, fod ynddo ormod, o waith ysgrifenwyr lled ddirym; a ffaith hynod ydyw ei fod ef wedi cyd-oddef cystal â gohebwyr mor llesg a'r rhai y cyfeiriwn atynt."

Dyma ni yn awr yn terfynu gyda hanes Arfonwyson, gyda dadgan ei fod mor gyflawn ac mor gywir ag y gallasem ni ei gael ef.

WALTER GRIFFITH (Gwallter Bach).

Mab ydoedd W. Griffith i'r diweddar Barch. David Griffith, Gweinidog parchus gyda'r Annibynwyr yn Ruabon (Bethesda gynt). Ganwyd ef yn Talysarn, Nant-nantlle, plwyf Llandwrog, yn y flwyddyn 1819. Derbyniodd ei addysg foreuol yn ysgol Tyntwr, gyda T. Williams, a gwnaeth ddefnydd da ohoni. Yr ydym yn deall i'w rieni symud o Talysarn i Bethesda, pan nad ydoedd Walter ond bachgen ieuanc. Wedi iddo gael addysg briodol, rhwymwyd ef yn egwyddorwas yn