Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bethesda. Wedi gorphen ei ymrwymiad, symudodd i fasnachdy yn Manchester. Wedi bod yn y lle hwn am ysbaid o amser, ymunodd â'r gymdeithas hono, "Anti-Corn-Law-League," fel darlithydd i'r Cymry ar ran y gymdeithas, ac nid oes un amheuaeth na bu o fawr les i'r symudiad. Gyda golwg ar gymeriad llenyddol W. Griffith, ystyrir ef yn llenor campus. Rhestrir ef yn uchel yn mysg y beirdd. Cyfansoddodd lawer o Hymnau, Cywyddau, Awdlau, Traethodau, &c. Cydnabyddir ef hefyd fel darlithiwr yn y dosbarth cyntaf. Ond mae yn debyg mai fel ystadegwr y daeth mwyaf o'i allu meddyliol ef i'r golwg yn ei oes fer. Bu farw o'r darfodedigaeth yn y flwyddyn 1846, yn 27ain mlwydd oed, gan adael priod i alaru ar ei ol. Claddwyd ef yn mynwent perthynol i gapel Bethlehem, ger Talybont, Llanllechid.

THOMAS WILLIAMS, TANYSGRAFELL.

Brawd oedd T, Williams i Gwilym Peris. Daeth i gymydogaeth Bethesda o Lanberis yn bur ieuanc. Ystyrid ef yn rhagori fel llenor ar ei gymydogion, yn neillduol felly fel rhifyddwr. Rhestrir ef a'i frawd Hugh Williams, Carneddi, yn mysg rhifyddwyr goreu ein gwlad. Ysgrifenodd y ddau lawer i'r hen Seren Gomer ar y gangen hon o lenyddiaeth. Clywsom fod colofn o'r Seren Gomer at eu gwasanaeth bob mis am amryw flynyddau. Bu T. W. farw yn y flwyddyn 1858, yn 81 mlwydd oed; a H. W. yn y flwyddyn 1849, yn 75 mlwydd oed. Dylem grybwyll gair am James Williams, mab H. Williams, yr hwn a ystyrid yn un o rifyddwyr penaf y ddau blwyf hyn. Amryw flynyddau yn ol ysgrifenodd lawer i'r Newyddiaduron o dan yr enw "Bachgen o Arfon." Cynwys ei erthyglau yn gyffredin