Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddai adolygiadau ar y prif weithiau sydd genym yn yr iaith Gymraeg. Mae yn aros yn bresenol yn Australia.

Wel, yn awr, wedi hir ymdroi yn nghyfeillach cryn nifer o "Enwogion Llanllechid a Llandegai," mae yn rhaid i ni ddyrwyn yr hanesyn i fyny; eto, wrth roddi ein hysgrifell heibio, pell ydym o feddwl ein bod wedi dihyspyddu holl adnoddau ein testyn. Teimlwn fod ein serch at le ein genedigaeth yn ddwfnreddfol yn ein calon. Felly yn ddiameu y gwna pawb ereill; a dyma yr esgus sydd genym dros y gorchwyl a gymerasom mewn llaw. Gallem ddywegd i ni ysgrifenu yr hyn a ysgrif enwyd genym mewn ysbryd cariadlawn; nid er hunan glod, ond yn hytrach i ddangos beth oedd a beth ydyw ansawdd Llenyddiaeth yn y fangre a garwn, sef Llanllechid a Llandegai; ac hefyd, er gwneyd coffâd parchus o luaws o enwogion a anwyd ac a ddygwyd i fyny ynddynt. Er nas gallem, megys ag y sylwasom o'r blaen, ymffrostio i ryw oleuadau mawrion, yn ffurfafen lenyddol ein cenedl, godi o'r plwyfydd hyn; eto gwelir fod yma luaws o ser dysglaer wedi bod yn llewyrchu yn yr oesau gynt, pan oedd nos anwybodaeth yn gorchuddio y wlad; a bod Cymru yn ddyledus i'r plwyfydd hyn am luaws mawr o enwogion yr oes hon, a hyny fel Gweinidogion yr efengyl, Beirdd, Cerddorion, Meddygon, Peirianwyr, Rhifyddwyr, &c.

DIWEDD