Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Carneddi y blynyddoedd diweddaf hyn, mae yn rhaid ni i ddyweyd, nad ydym yn ei ystyried yn deilwng o'i gymharu i'r hyn ydoedd ychydig flynyddoedd yn ôl. Yn bresennol, nid oes un anthem i'w chlywed o ddechreu y flwyddyn i'w diwedd; ac yn wir, mae hynny yn taraw yn bur chwithig arnom. O'n rhan ni, yr ydym yn hollol anghymeradwyo y gyfundrefn bresennol o ganu yn ein cynulleidfaoedd.

Gyda golwg ar ganu Bethesda (A.), gallem ddyweyd yn hyf, ei fod wedi bod yn tra rhagori fel canu cor awl" ar un gynulleidfa yn y ddau blwyf; ac fe allai y gallem enwi y canu perthynol i Eglwys Llanllechid yn agosaf ato. Mae yn ffaith nad ydyw canu Bethesda i'w gymharu â'r hyn a fu; ond mae canu Eglwys Llanllechid yn dal ei dir yn dda.

Am y canu yn Jerusalem, gallem ddyweyd fel am y Carneddi, ei fod wedi colli tir lawer iawn. Mae y canu cynulleidfaol yn dda, ond nid oes yno ganu corawl. Gyda golwg ar y canu yn holl addoldai y plwyfydd hyn, gallem ddyweyd ei fod yn bur dda ar y cyfan.

Gair eto ar Ysgolion Sabbothol y ddau blwyf. Megys y sylwasom o'r blaen, llenyddiaeth yr Ysgol Sabbothol yw llenyddiaeth Llanllechid a Llandegai. Iddi hi yn ddiau y mae i ni briodoli wedd sydd i'w chael ar y trigolion yn y dyddiau hyn. Oni buasai am yr Ysgol Sul, ni fuasai ein gwlad ond megys mannau tywyll y ddaear. Yn awr yr ydym yn cael fod rhifedi yr Ysgolion Sabbothol yn y ddau blwyf tua chwe mil. Mae yn ddiameu nad heb lafur mawr y cafwyd yr Ysgol Sabbothol i'r wedd ragorol ag sydd i'w chanfod arni yn y plwyfydd hyn, gystal a'r wlad yn gyffredinol. Er bod gwedd ragorol ar yr Ysgolion Sabbothol y dyddiau hyn, eto yr ydym yn cael mai ychydig, ac ychydig iawn,