Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydyw y cynnydd sydd arni yn ein gwlad er's blynyddau. Pe meddyliem am funud am yr Ysgolion Sabbothol perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yn y ddau blwyf, caem weled yn amlwg mai ychydig yw y cynnydd sydd wedi bod arni. Yn y flwyddyn 1840, yr oedd rhifedi yr Ysgolion yn 1620, ac yn y flwyddyn hon nid ydynt ond 2065. Felly gwelir nad yw y cynydd ond 445 yn ystod y chwe blynedd ar ugain diweddaf. Yr ydym yn ofni mai y llesghâd gyda'r llafur a'r ffyddlondeb ydyw yr unig achos o'r adfeiliad sydd i'w ganfod ar ein Hysgolion y blynyddoedd hyn.

Dichon nad annyddorol fyddai i ni grybwyll yn y fan hon ar rai o'r pethau hynny a fyddent yn effeithio yn dda er cynnydd yr Ysgol yn y blynyddoedd cyntaf. Un peth oedd cysylltu achos yr ysgol â'r pulpud a'r pregethwyr. Peth arall oedd cadw ysbryd llafur yn fyw mewn darllen, dysgu allan, &c., a gwobrwyo yn dda am hynny. Peth arall oedd cadw gwaith yr ysgol yn ei phethau pwysicaf yn nwylaw yr un rhai. Mae yn sicr nad oes dim da yn tarddu o'u newid yn rhy aml.

Wedi gwneyd ychydig sylwadau fel hyn ar "hanes Llenyddiaeth," ni a symudwn yn mlaen at yr ail fater yn ein testyn.