Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dosbarth yr Ail

HANES ENWOGION GENEDIGOL YN Y DDAU BLWYF

PENNOD I

GWEINIDOGION A PHREGTHWYR YR EFENGYL

I.—Y GWEINIDOGION

Ar un golwg, nid ydym yn ystyried bod un gŵr o enwogrwydd mawr wedi codi yn Llanllechid na Llandegai er's rhai canrifoedd; ac oni buasai fod graddau mewn enwogrwydd, ni buasem yn ymwneyd â'r testyn o gwbl. Ni chodwyd ynddynt erioed John Elias o bregethwr, na Demosthenes o areithiwr, na Newton o athronydd, na Milton o fardd, na Handel o gerddor, na Syr William Jones o ieithydd, &c. Eto, os nad allwn ymffrostio i ryw oleuadau mawrion yn ffurfafen lenyddol ein cenedl godi o'r plwyfydd hyn, gallwn ymffrostio fod yma sêr dysglaer wedi bod, ac yn bod yn llewyrchu ar ein gwlad. Ar un golwg, nid ydym yn ystyried hyd yn nod Gweinidogion yr Efengyl—yr oll ohonynt—i fyny â safon ein testyn; eto, cyn belled ag y maent yn ddosbarth o allu a dylanwad fel dynion cyhoeddus, a llawer ohonynt wedi d'od i fyny i safle uchel, ac yn feddiannol ar wybodaeth helaeth mewn amryw gangenau gwybodaeth, a hynny trwy lawer o anfanteision