Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Athrofa y Bala am ychydig yn derbyn addysg. Yn y flwyddyn 1851, fe symudodd o gymydogaeth Bethesda i Brynsiencyn, Môn. Cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1859. Er nad allem ystyried Mr. Jones yn y dosbarth cyntaf o bregethwyr ei oes, eto bydd ei bregethau bob amser yn dda a sylweddol, ac yn cael eu traddodi yn rhwydd a naturiol, a chyda rhyw ynni a theimlad gwir efengylaidd.

PARCH. JOHN OGWEN JONES, B. A., LIVERPOOL. [1]

Ganwyd Mr. Jones mewn ffermdy bychan a elwir Tŷ ddyn, yn agos i Talybont, yn y flwyddyn 1829. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. David Jones, Pentreisaf, Llanllechid, yr hwn a fu yn flaenor cyfrifol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am amser maith yn Mangor. Cafodd ei addysg foreuol yn bennaf gydag ewythr iddo o frawd ei fam, sef y Parch. John Hughes, Aber Ogwen, ond Person Botwnog Lleyn y pryd hwnnw. Pan nad ydoedd Mr. Jones ond bachgennyn symudodd ei rieni i fyw i Fangor. Yn fuan wedi iddynt symud i Fangor, a phan oedd Mr. Jones tua phedair ar ddeg oed, rhwymwyd ef yn brentis mewn swyddfa marsiandwr am bum mlynedd. Yn nghapel Bedford-street y cafodd ei dderbyn yn gyflawn aelod eglwysig. Bu yn aelod ffyddlawn a llafurus mewn Cymdeithas Lenyddol a berthynai i gapel Bedford Street. Rhwng yr Ysgol Sabbothol, a'r Gymdeithas Lenyddol, a'r Llyfrgell, dêr byniodd lawer o les a gwybodaeth. Yn fuan ar ol hyn, cafodd fyned i dderbyn ei addysg

  1. Cyn i'r traethodyn hwn fyned i'r wasg, yr oedd Mr. Jones wedi ymadael o Liverpool i Groesoswallt i weinidogaethu; ac yn Hydref 29ain, 1867, derbyniodd Dysteb anrhydeddus gan ei hen gyfeillion yn Liverpool, yr hon oedd yn cynnwys cant a deg punt ar ugain mewn aur