Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawer am wybodaeth; ond yn y flwyddyn 1846 ymfud odd i Wisconsin, America, lle y cafodd ei godi i bregethu, yn y flwyddyn 1847, gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Yn y flwyddyn 1862, cafodd ei ordeinio yn weinidog. Cawn ei fod yn bregethwr da, a gwir gymeradwy.

PARCH. DANIEL T. ROWLANDS COLLINSVILLE, AMERICA

Ganwyd D. T. Rowlands mewn lle o'r enw Nant y graen, ger Bethesda, yn y flwyddyn 1824. Cafodd ei ddwyn i fyny gyda chrefydd o'i febyd, a hynny gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn nghapel y Carneddi. Yr oedd ei dad, Mr. T. Rowlands, yn un o'r crefyddwyr hynaf a ffyddlonaf a berthynai i'r Carneddi. Wedi adeiladu Jerusalem, symudodd o'r Carneddi, lle y codwyd ef yn fuan yn flaenor eglwysig. Yn y flwyddyn 1847 ymfudodd i'r America at ei blant, lle y bu farw yn y flwyddyn 1850, yn 69 mlwydd oed. Cawn mai ychydig o foddion addysg a gafodd ei fab Daniel; eto, pan nad oedd ond ieuanc, dangosai fod ynddo chwaeth da, a meddai ar gryn lawer o wybodaeth. Yn y flwyddyn 1847, ymfudodd i Wisconsin, America; ac yn y flwydd yn 1849, codwyd ef i bregethu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ac yn y flwyddyn 1859, cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr ydym yn cael ei fod yn bregethwr da, hyawdl, a thra phoblogaidd.

PARCH. WILLIAM JONES, DWYRAIN, MÔN

Mab ydyw Mr. Jones i'r diweddar Mr. T. Jones, Bryn llys, Llandegai. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1824. Ychydig o addysg a gafodd yn moreu ei oes; ond trwy ei lafur daeth yn mlaen yn dda. Cafodd ei godi yn bregethwr gan eglwys y Carneddi yn y flwyddyn 1848. Bu yn