Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

goreu, bydd gyda'i ddoniau anghyffredin yn ysgubo pob peth o'i flaen.

PARCH. DAVID MORRIS, CAE—ATHRAW.

Ganwyd Mr. Morris mewn ffermdy o'r enw Cilfodan, ger Carneddi, yn y flwyddyn 1813. Efe a ymunodd ag eglwys y Carneddi pan tua 15 mlwydd oed. Codwyd ef yn Ddiacon yn y Carneddi yn y flwyddyn 1837; ac yn y flwyddyn 1838, codwyd ef yn bregethwr, a chafodd ei ordeinio yn y flwydd yn 1849. Yr ydym yn cael iddo fod am dymor byr yn derbyn ei addysg yn Athrofa y Bala. Fel pregethwr, gallem ddyweyd fod Mr. Morris yn dduwinydd galluog; yn meddu ar feddwl bywiog, treiddgar, a manwl; a chanddo ddawn serchog a phoblogaidd, iaith goeth, ac heb ddim ynddi yn isel ac annheilwng. Mae y pwyll, yr arafwch, a'r tawelwch sydd yn nodweddu y rhan gyntaf o'i bregethau, yn rhagarwyddion sicr o dymestl sydyn ac arswydol yn y rhan ddiweddaf o'i bregethau. Ond cyn diweddu bob amser bydd y storm drosodd, a haulwen oleu yr Efengyl yn tywynnu yn ei gogoniant, ac yn sirioli calonnau yr holl wrandawyr. Gallem ddyweyd ei fod yn un o'r gweinidogion mwyaf cymeradwy yn nghorff y Methodistiaid Calfinaidd yn Arfon.

PARCH. RICHARD GRIFFITH, WATERTOWN, AMERICA

Mab ydyw R. Griffith i'r diweddar Mr. John Griffith, Gerlan, Llanllechid. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1821. Cafodd ei ddwyn i fyny gyda chrefydd o yn blentyn. Bu mewn ysgol ddyddiol, fel plant ei ardal yn gyffredin ôl; ond pan y daeth yn alluog i weithio, dygwyd ef i fyny yn chwarelwr. Pan yn lled ieuanc, llafuriodd