Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyny gyda chrefydd, oblegid yr oedd ei dad, Mr. John Humphrey, yn ddiacon parchus, llafurus, a gwir ffyddlawn yn nghapel Penygroes. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1832, ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y flwyddyn 1845. Dylem grybwyll iddo gael ei ddewis i'w ordeinio yn y flwyddyn 1841; ond oherwydd iselder a llwfrdra meddwl, yn nghyda theimlad o anaddfedrwydd i'r fath swydd bwysig, ni chymerodd ei ordeinio am 4 blynedd wedi iddo gael ei ddewis. Gyda golwg arno fel pregethwr, gallem ddyweyd ei fod yn feddyliwr gwreiddiol a synwyrlawn, ac yn wir gymeradwy gan ei Gyfundeb. Bydd ei bregethau bob amser yn wir feddylgar, gwreiddiol, ac yn ffraeth dros ben.

PARCH. JOHN JONES, CARNEDDI.

Ganwyd Mr. Jones yn Pentref-isaf, Llanllechid, yn y flwyddyn 1808. Ychydig iawn o ddim modd ion addysg a gafodd ef erioed. Cawn iddo gael ei godi yn bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Corris, Swydd Feirionydd, yn y flwyddyn 1830. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1856. Mae yn ymddangos fod Mr. Jones wedi ei gymell i fyned i'r weinidogaeth cyn iddo fyned i Swydd Feirionydd, pan yr ydoedd yn y Carneddi; ond oherwydd rhyw amgylchiadau cysylltiedig â'i waith, gorfu iddo ymadael o gymydogaeth Bethesda, ac felly fe symudodd i Gorris i weithio. Gyda golwg arno fel pregethwr, gallem ddyweyd ei fod yn boblogaidd a chymeradwy trwy'r wlad yn gyffredinol. Er nad yw ei amgyffredion meddyliol yn rhyw eang ân nghyffredin, eto cawn ganddo ambell waith feddyliau a barant i ni synnu a mawrygu. Pan y bydd yn ei hwyliau