Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynyddau, ac a ymunodd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Bu gyda hwy am amryw flynyddau fel pregeth ŵr cynorthwyol, ac yn y flwyddyn 1859 ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Fel pregethwr, mae yn meddu ar ddoniau ac hyawdledd tra chymwys i'w wneyd yn bregethwr cymeradwy a phoblogaidd. Mae hefyd yn feddyliwr da, ac yn ymresymwr cadarn.

PARCH, THOMAS HUGHES, CAERNARFON.

Ganwyd Mr. Hughes yn y Tyddyn a elwir Llwyn Penddu, yn Llanllechid, yn y flwyddyn 1807. Fel y crybwyllasom, yr oedd Mr. Hughes yn frawd i'r diweddar Barch. Howell Hughes, Rhoscolyn, Mon. Ychydig o fanteision gwybodaeth a gafodd yn moreu ei oes. Dygwyd ef i fyny yn Arddwr yn Nghastell y Penrhyn. Yr ydym yn deall ei fod yn 21 oed pan yr ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, yn y Gate house. Yn mhen y pedair blynedd dechreuodd ar y gwaith o bregethu yr efengyl, ac yn mhen y 9 mlynedd drachefn, sef yn y flwyddyn 1841, cafodd ei ordeinio i holl waith y weinidogaeth. Cyn ei ordeinio, bu yn Athrofa y Bala am 18 mis yn derbyn ei add ysg, a dyna bron y cyfan o foddion addysg a gafodd erioed. Gallem ddyweyd fod Mr. Hughes yn bregeth ŵr tra egwyddorol, ac hefyd yn wir gymeradwy yn y corff y perthyna iddo.

PARCH. GRIFFITH JONES, TRE’RGARTH

Ganwyd Mr. Jones mewn tyddyn o'r enw Ty'n y Clawdd, yn mhlwyf Llandegai, yn y flwyddyn 1808, a bedyddiwyd ef yn Eglwys Llandegai, gan y Parch. Hugh Price, Periglor y plwyf. Ychydig o fanteision addysg a gafodd pan yn ieuanc. Cafodd ei ddwyn i