Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydym yn cael ei fod yn bregethwr da, ac felly yn dra chymeradwy.

Y TREFNYDDION CALFINAIDD

PARCH. MORRIS JONES, JERUSALEM.

Ganwyd y Parch. M. Jones yn Braich y cafn, Llandegai. Bu yn pregethu am tua 50 o flynyddau. Codwyd ef i bregethu gyda'r Annibynwyr, ond yn y flwyddyn 1817 ymunodd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Carneddi. Bu M. Jones yn hynod o lafurus a ffyddlawn yn ôl y dalent a roddwyd iddo. Pregethwr i raddau pell iawn ar ben ei hun oedd ef. Nid oedd wedi ei gynysgaethu â rhyw dalentau dysglaer iawn; eto, yr oedd yn meddu ar ddoniau neillduol, a chawn ambell waith y meddyliau mwyaf ardderchog ganddo, teilwng o enaid gwir fawr. Yr oedd ganddo lais cryf a soniarus, a byddai hwnnw ar brydiau yn cael ei ollwng allan yn orlif hylithr. Ni chafodd M. Jones nemawr o fanteision addysg, ond llafuriodd ar hyd ei oes, trwy lawer iawn o anfanteision. Yr oedd fel pregethwr yn un tra phoblogaidd, a phawb yn hoff dros ben o'i glywed. Yr oedd ei ddoniau yn ddoniau arbennig a neillduol, ac felly yr oedd pawb, hyd yn nod y dosbarth mwyaf chwaethus a diwylliedig, yn dra hoff o'i glywed yn siarad. Bu farw Mai 20, 1862, yn 80 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Glan Ogwen, lle y mae monument ardderchog ar ei fedd, yr hon a roddwyd gan eglwys Jerusalem.

PARCH. JOHN OWEN, HERMON

Ganwyd y Parch. J. Owen yn y Ffynon Bach, Llandegai, a hyny yn y flwyddyn 1798. Codwyd ef yn bregethwr gyda'r Cyfundeb Wesleaidd yn y flwyddyn 1830. Oherwydd rhyw annghydwelediad â'r brodyr uchod, fe ymadawodd yn mhen ysbaid maith o