Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dicwm, Llandegai. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1835, yn Tyddyn-dicwm. Dechreuodd dderbyn ei addysg yn foreu, a hyny mewn ysgolion uwchraddol. Amcanwn roddi ychydig o fras hanes amdano. Pan yn fachgen, dechreuodd dderbyn ei addysg yn "Ysgol Friars," Bangor. Oddiyno symudodd i'r " Royal Institution School," Liverpool: oddiyno drachefn i "Corpus Christi College," Caergrawnt. Etholwyd ef yn Athraw Trwyddedig yn y Royal Institution School, Liverpool, yn y flwyddyn 1854. Pan yn y Coleg uchod, etholwyd ef yn Scholar yn 1855, ac yn Mawson Mathematics Scholar yn 1856. Yn nghorff y pedair blynedd o'r fl. 1855 hyd 1859, enillodd y Gwpan Arian. Yn y fi. 1859, graddiwyd ef yn Wrangler yn Mhrif Goleg Caergrawnt. Wedi d'od o Gaergrawnt, etholwyd ef yn Athraw yn y Royal Institution School, Liverpool; ac hefyd yn Gurad yn Eglwys St. Pedr, Rock Ferry, Liverpool. Yn y i. 1863, cafodd ddyrchafiad i fod yn Beriglor Llangarmon, ger Aberystwyth. Yn nechreu y flwyddyn hon, 1867, cafodd ei benodi yn Athraw yn Codrington College, Barbadoes, West Indies.

PARCH. HUGH E. WILLIAMS, DOLWYDDELAN.

Mab yw Mr. Williams i'r diweddar Edward Williams, Hirdir, Llandegai. Ganwyd ef yn y fl. 1836. Derbyn iodd ei addysg foreuol yn yr Ysgol Genedlaethol Tyntwr. Bu amryw flynyddau yn gweithio gwaith chwarelwr yn Chwarel—y—Cae. Pan yn ugain oed, aeth i'r Training College, Caernarfon, lle y bu am ddwy flynedd. Yna aeth i gadw yr Ysgol Genedlaethol i Lanrug, lle y bu am flwyddyn. Yna symudodd oddiyno i gadw ysgol i Penrhyndeudraeth, lle y bu am bedair blynedd. Oddi yno aeth i St. Bees' College, llu y bu am dair blynedd, pryd yr ordeiniwyd ef i Guradiaeth Dolwyddelan. Yr