Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bees' College, Cumberland. Bu yn gwasanaethu fel Scripture Reader am saith mlynedd o dan y Parch. G. Griffiths, Periglor Maentwrog. Yn y flwyddyn 1862 ordeiniwyd ef gan Arglwydd Esgob Bangor i Guradiaeth Clynnog; ac yn y flwyddyn 1866, cafodd ei ddyrchafu i Guradiaeth Rhosymedre, ger Rhiwabon, lle y mae yn gwasanaethu yn bresennol.

PARCH. MOSES THOMAS, LLANRUG.

Ganwyd Mr. Thomas yn Ty-newydd, Perthi, Llandegai, Ebrill 24, 1834. Bu yn derbyn ei addysg foreuol yn yr Ysgol Genedlaethol, Llandegai. Wedi iddo dd'od yn gymwys i weithio, aeth i Chwarel Caebraichycafn, lle y bu hyd y flwyddyn 1862, pryd y derbyniodd gymelliadau cryfion i fyned i ymofyn am chwaneg o wybodaeth a dysg yn yr ieithoedd gwreiddiol, a hynny mewn trefn iddo gael ei ordeinio i'r offeiriadaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Yn y flwyddyn 1862, aeth i gymeryd ei addysg yn y Groeg a'r Lladin at y Parch. Richard Griffith, Incumbent Llanfair-isgaer, ger Caernarfon. Bu am ychydig amser hefyd gyda'r Parch. Lloyd Williams, Periglor Llanberis. Yn y flwyddyn 1864, ordeiniwyd ef gan Arglwydd Esgob Bangor i Guradiaeth Llanberis, lle y bu am ddeuddeng mis. Yna dyrchafwyd ef i Guradiaeth Llanrug, yn Ionawr, 1866. Mae Mr. Thomas yn un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a dylanwadol ag sydd yn perthyn i weinidogion yr Eglwys yn Esgobaeth Bangor.

PARCH. JOHN PARRY, LLANGARMON, GER ABERYSTWYTH

Mae yn debyg fod y gŵr ieuanc hwn yn un o'r dysgawdwyr mwyaf a godwyd yn Llanllechid neu Landegai. Mab ydyw i'r diweddar J. Parry, Tyddyn