Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PARCH, DAVID ROBERTS, MOSTYN

Ganwyd y gweinidog parchus hwn yn Mangor, yn y flwyddyn 1821; ond magwyd a dygwyd ef i fyny yn Ty'n y caeau, Llandegai. Yr ydym yn cael iddo gychwyn ei addysg yn yr Ysgol Rad, Bangor. Derbyn iod ei addysg yn y Lladin a'r Groeg am dair blynedd, gan y diweddar Barch. Morgan Lloyd, Periglor Bettws Garmon. Aeth oddiwrtho ef i'r Church Missionary College, Llundain. Wedi iddo fod yn y lle hwn am tua blwyddyn, gorfodwyd ef i ymadael gan waeledd ei iechyd. Gorphenodd ei addysg yn St. Bees College. Ordeiniwyd ef yn Ddiacon gyda'r Eglwys Sefydledig gan Esgob Llanelwy, yn y flwyddyn 1851, ac ar y pryd cafodd Guradiaeth Ysgeifiog. Tra yn Ddiacon, penodwyd ef, wedi bod yn Ysgeifiog am naw mis, i Berigloriaeth Mostyn, lle y mae yn awr er's pymtheng mlynedd. Derbyniodd ei gyflawn urddau yn y flwyddyn 1852. Gyda golwg arno fel pregethwr, cawn ei fod, o ran ei ddoniau a'i hyawdledd, yn nghyda gwreiddiolder ei syniadau, braidd ar y blaen i'w gyd weinidogion yn yr un Esgobaeth. Nid rhyw lawer y mae wedi ei gyhoeddi o gynhyrchion ei feddwl. Cyhoeddodd amryw bregethau a thraethodau ar wahanol bynciau yn yr "Haul." Cyhoeddwyd bywgraffiad y diweddar Barch. Rowland Williams, Periglor Ysceifiog, o'i eiddo yn Gymraeg. Mae yn fardd rhagorol hefyd. Ymddangosodd llawer iawn o'i weithiau barddonol yn yr " Haul," y " Cymro," a'r " North Wales Chronicle."

PARCH. WILLIAM JONES, RHOSYMEDRE

Ganwyd ef yn y Perthi, Llandegai, yn y flwyddyn 1826. Yr ydym yn cael iddo fod yn derbyn ei addysg yn Mangor, yn Mechanics' Institution Liverpool, yn Normal College Swansea, yn Training College Caernarfon, ac yn St.