Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trefor. Aeth oddiyma i Drefriw, a dyma y Bersonoliaeth gyntaf a gafodd. Symudodd oddiyma drachefn i sir Fôn, lle y bu yn Berson Llanfair, Llanfihangel, a Rhoscolyn, Môn, lle y bu yn gwasanaethu hyd derfyn ei oes. Bu farw yn nhref Caergybi, a chladdwyd ef yn Rhoscolyn, Ionawr 1847, yn 47 mlwydd oed. Gyda golwg ar ei alluoedd meddyliol, a'i ddawn gweinidogaethol, yr ydym yn cael ei fod ar y blaen braidd yn Môn ac Arfon, yn enwedig felly gyda'r Eglwys Sefydledig. Byddai tuedd bob amser yn ei weinidogaeth i lesoli y byd, ac i gysuro saint y Goruchaf.

PARCH. RICHARD JONES, AMERICA

Ganwyd R. Jones yn yr hen Durnpike Llandegai, yn y flwyddyn 1818. Pan yn fachgen yr oedd yn meddu ar alluoedd meddwl cryfion, a defnyddiodd hwy i bwrpas, nes y cyraeddodd i gryn raddau o ddysg a gwybodaeth. Pan tuag 20 oed, codwyd ef i bregethu gan eglwys Annibynol Bethesda. Yn fuan ar ôl hyn, cafodd ei gyflwyno gan y Parch. W. Williams (Caledfryn) i'r diweddar a'r dysgedig Dr. Raffles, Liverpool, gyda'r hwn y bu yn derbyn ei addysg am ychydig. Yn yr adeg yma, cafodd Dr. Raffles le iddo yn y coleg Annibynol, Manchester, o dan ofal a dysgeidiaeth Dr. Vaughan. Wedi bod gyda'r Dr. enwog hwn am gryn amser, cafodd ei ordeinio i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr Seisnig. Ond yr ydym dan orfod i ddyweyd na ddarfu iddo ymddwyn yn rhyw deilwng iawn at yr Annibynwyr, wedi iddynt ei ddwyn i fyny i'r fath raddau uchel mewn dysgeidiaeth. Yr ydym yn cael na fu yn hir heb ymadael oddiwrth yr Annibynwyr, ac ymuno gyda'r Eglwys Sefydledig yn Llundain. Symudodd o Lundain cyn hir, ac aeth i'r America, ac yno y mae yn bresennol, yn weinidog gwir ddysgedig gyda'r Eglwys Sefydledig.