Tudalen:Hanes llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PARCH, JOHN HUGHES, LLANYSTUNDWY

Ganwyd y gŵr hwn yn Aberogwen, Llanllechid, yn y flwyddyn 1784. Enw ei dad oedd John Hughes. Bu am amryw flynyddau yn derbyn ei addysg yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychain. O'r Coleg ordeiniwyd ef yn Gurad yn mhlwyf Pistyll, yn Lleyn. Oddiyno cafodd Bersonol aeth plwyf Caergwich, Lleyn. Symudodd oddiyno i blwyf Llanystundwy, lle y bu farw, yn y flwyddyn 1854, yn 70 mlwydd oed. Mae iddo ddau o feibion yn Off eiriaid yn bresenol-y Parch. W. Hughes, ei fab hynaf, Periglor Llanllyfni; John Hughes, Periglor yn mhlwyf Botwnog; a mab arall, sef Richard, yn Rhydychain yn derbyn ei addysg. Dywedir fod Mr. Hughes yn berchen ar ddysg a gwybodaeth helaeth iawn, ac yn bregethwr nodedig o hyawdl.

PARCH. HOWELL HUGHES, RHOSCOLYN

Ganwyd yr Offeiriad parchus hwn yn Llwyn-penddu, Llanllechid, yn y flwyddyn 1800. Mab ydoedd Mr. Hughes i'r diweddar amaethydd parchus, Mr. Owen Hughes, o'r Gochwillan, a brawd i Mr. O. Hughes sydd yn y lle yn bresennol, a brawd hefyd i'r Parch. Thomas Hughes, Gweinidog parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nghaernarfon. Anfonwyd Mr. H. Hughes yn ieuanc iawn i ysgol Friars, Bangor, lle y bu am amryw flynyddau, a phan oedd tua 17 oed, anfonwyd ef i Goleg yr Iesu, yn Rhydychain. Bu yno am tua phedair blynedd. Yn ysbaid yr amser hwnnw, cynyddodd yn anghyffredin mewn dysg a gwybodaeth. Derbyniodd amryw wobrau colegawl; ac wrth ymadael o'r coleg, derbyniodd y gradd o A. C. (Athraw Celfyddydau). Yn fuan ar ôl hyn, cafodd Berigloriaeth Llangelynin, ger Conwy. Symudodd yn lled fuan o'r lle hwn i Berigloriaeth Caernarfon, o dan y diweddar Barch. J. W.